Pascon agan Arluth

Cerdd Cernyweg o'r 14g

Y gerdd ddienw Pascon agan Arluth yw'r gwaith llenyddol cyflawn hynaf yn yr iaith Gernyweg, mae'n dyddio o'r 14g. Er nad oes teitl yn y gwreiddiol, gellir cyfieithu'r teitl modern i: "Dioddefaint ein Harglwydd", ond mae'r gerdd hefyd wedi cael ei chyhoeddi dan y teitl 'Mynydd Calfaria'.[1]

Pascon agan Arluth
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
IaithCernyweg Edit this on Wikidata
Llinellau agoriadol y gerdd Pascon agan Arluth; cyhoeddiad 1826 gyda theitl Saesneg wedi'i argraffu gan nad oedd teitl ar y gerdd wreiddiol.

Dyddiad, llawysgrifau ac awduraeth golygu

Mae Pascon agan Arluth yn dyddio o ddechrau'r 14g; mae'n hŷn na'r Ordinalia, cylch o dair drama mewn mydr ar themâu Beiblaidd sydd i'w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gan hynny, dyma'r gwaith llenyddol cyflawn cynharaf sydd wedi goroesi yn y Gernyweg. Nid yw enw'r awdur yn hysbys, ond gall fod yn gysylltiedig â Choleg Glasneth yn Pennrynn, Cernyw. Mae mwy na dwsin o lawysgrifau o'r gerdd wedi cael eu darganfod, ond mae pob un yn deillio o gopi Harleian 1782 yn y Llyfrgell Brydeinig, llawysgrif sy'n ddyddio o ganol y 15g.[1]

Dadansoddi golygu

Mae'r Pascon yn delio â dyddiau olaf Iesu Grist, gan ddechrau gyda'r demtasiwn yn yr anialwch. Er ei fod mewn ffurf naratif mae hefyd yn ymgorffori sylwadau ar y stori i esbonio ei ystyr. Prif ffynhonnell y gerdd yw'r Efengylau, ond mae hefyd yn tynnu ar ddeunydd ddiweddarach, chwedlonol fel y gellir gweld yn y Scholastica Historia gan Petrus Comestor a'r Llith Euraid gan Jacobus de Voragine. Mae'n cynnwys 259 pennill o bedwar cwpled sy'n odli, gyda phob llinell yn cynnwys saith sill (yn debyg i'r cywydd yn y Gymraeg), ond gyda'r pwyslais ar y cyntaf, y trydydd, y pumed a'r seithfed sill.[2]

Dylanwadu golygu

Roedd Pascon agan Arluth yn sicr yn hysbys i awdur Passio Christi, un o'r dramâu miragl Cernyweg Canol sy'n cael ei gynnwys y Ordinalia, gan fod rhai o linellau'r gerdd yn cael eu hymgorffori ynddo. Cafodd y bardd Cernyweg modern Ken George ei ysbrydoli gan y Pascon i ysgrifennu Devedhyans Sen Pawl in Bro Leon ("St. Pawl yn dod i Leon") cerdd am deithiau Sant Paol Aorelian, gan ddefnyddio'r un mesurau ac sydd yn gerdd hŷn. Roedd Paolo Aorelian yn Gymro o'r 6g a ddaeth yn esgob cyntaf Esgobaeth Bro-Leon ac un o'r saith sant sylfaenydd Llydaw.

Argraffiadfau a chyfieithiadau golygu

Argraffwyd y Pascon am y tro cyntaf o dan y teitl Mount Calvary; or the History of the Passion, Death, and Resurrection, of Our Lord and Saviour Jesus Christ, wedi ei olygu gan Davies Gilbert ym 1826, roedd y gyfrol hefyd yn cynnwys cyfieithiad Saesneg gan John Keigwin yn dyddio'n ôl i 1682. Cafwyd argraffiad gwell gan Whitley Stokes ym 1860-1861, ac un arall gan Robert Morton Nance ym 1934-1936, y ddau gyda chyfieithiadau Saesneg newydd. Yn fwy diweddar bu argraffiadau gan E G R Hooper, gan Goulven Pennaod (gyda chyfieithiadau Saesneg a Llydaweg), a gan Ray Edwards (gyda chyfieithiad Saesneg).[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Murdoch, Brian (1993). Cornish Literature. Cambridge: D. S. Brewer. ISBN 0859913643.
  2. Preminger, Alex, gol. (1972) [1965]. Princeton Encyclopedia of Poetry and Poetics (arg. 1st). Princeton: Princeton University Press. ISBN 0691060320.
  3. The medieval Cornish poem of the Passion: (Mount Calvary, Pascon agan Arluth) (Special bibliography - Institute of Cornish Studies) gan Brian Murdoch (e-lyfr rhad ac am ddim i'w lawrlwytho)[dolen marw]