Teulu a fu'n ddylanwadol ar Ynys Môn ac ardaloedd cyfagos am rai canrifoedd oedd teulu Bulkeley (neu'r Bwcleaid)[1]. Eu prif drigfan oedd Baron Hill gerllaw Biwmares, ond roedd nifer o ganghennau o'r teulu.

Cofeb y teulu Bwcleaid, a godwyd yn 1875, tua 90tr o uchter. Fe'i codwyd yn gofeb i Syr Richard Bulkeley Williams 1801-1875.

O ddwyrain Swydd Gaer yn Lloegr y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn 1450. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd William Bulkeley, y dyddiadurwr.

Bu aelod o brif gangen y teulu, Arthur Bulkeley, yn Esgob Bangor rhwng 1541 a 1552. Adeiladwyd plasdy Baron Hill gyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley (bu farw 1621). Gwnaed ei fab, Thomas (1585-1659), yn Is-iarll Bulkeley.

Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeistrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y 16g hyd ganol y 19g. Torïaid uchel oeddynt o ran gwleidyddiaeth, ac yn y 18g amheuid hwy o gydymdeimlad a Jacobitiaeth. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Is-iarll Thomas Bulkeley heb blant yn 1822. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.

Rhai aelodau nodedig

golygu

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 2 Tachwedd 2016.