Bryn y Barwn
ystad rhestredig Gradd II* ym Miwmares
(Ailgyfeiriad o Baron Hill)
Stad a phlasdy gerllaw Biwmares ar Ynys Môn yw Bryn y Barwn (Saesneg: Baron Hill). Yma yr oedd prif breswylfa teulu Bulkeley, a fu'n eithriadol o ddylanwadol ar yr ynys am rai canrifoedd.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Biwmares |
Sir | Cymuned Biwmares |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 46 metr |
Cyfesurynnau | 53.2669°N 4.1033°W |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Perchnogaeth | Richard Bulkeley (bu farw 1621), Thomas Bulkeley, 7fed is-iarll Bulkeley, Richard Bulkeley Williams-Bulkeley, teulu'r Bulkeley |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Daw'r enw o enw'r bryn lle saif y plasdy. Adeiladwyd y plasdy cyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley. Bu ym meddiant teulu Bulkeley, yn ddiweddarach Williams Bulkeley, hyd nes i gostau cynnal yr adeilad fynd yn ormod i'r teulu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwed y plasdy gan garfan o'r Peirianwyr Brenhinol. Yn ddiweddarach, difrodwyd yr adeilad gan dân, a dim ond gweddillion sydd ar ôl.
Yn Awst 2008, cyhoeddwyd cynlluniau i adfer yr adeilad a'i droi yn fflatiau moethus.[1]
Gweler hefyd
golygu- William Bulkeley (4 Tachwedd 1691 – Hydref 1760), dyddiadurwr
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- (Saesneg) Cyflwr presennol yr adeilad
Oriel
golygu-
Y porthdai wrth y fynedfa
-
Y plasdy ym 1982
-
"Y Pulpud"