Cader Idris

mynydd yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Cadair Idris)

Un o fynyddoedd enwog gogledd Cymru yw Cader Idris (neu Cadair Idris ). Fe'i lleolir ym Meirionnydd, de Gwynedd, ger Dolgellau, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

Cadair Idris
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr893 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6998°N 3.9087°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd608 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaAran Fawddwy Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae ganddo bedwar copa sef Geugraig, yna tua'r gorllewin Mynydd Moel, wedyn Pen y Gadair ei hun (sef y fam-gopa) ac yna'r Cyfrwy a'r Tyrau Mawr yn ymestyn i'r dwyrain tua'r môr. Mae Pen y Gadair 893 metr uwch ben lefel y môr.

Mae cwt cysgodi ar gopa Pen y Gadair, ac yn ôl hen dradoddiad, bydd pob un a gwsg ar y mynydd, yn deffro naill ai fel bardd neu fel gwallgofddyn.[1]

Idris a'i gadair golygu

Yn ôl y chwedl a gofnodwyd gan John Jones, Gellilyfdy, oddeutu 1600, enwir y mynydd ar ôl Idris Gawr. Roedd yn bennaeth ar dri chawr arall yn yr ardal, Ysgydion, Offrom ac Ysbryn, a roddodd eu henwau ar fryniau cyfagos (Moel Ysgydion, Moel Offrom/Offrwm a Moel Ysbryn).[2] Yno yn nghwm Llyn y Gadair roedd y cawr yn eistedd. Roedd yn enwog am ei wybodaeth o'r sêr a dywedir ei fod yn eistedd ar ben Cader Idris i'w gwylio.

Cadair Idris ynteu Cader Idris? golygu

Ystyr sylfaenol y gair cadair (Cymraeg Canol/Modern Cynnar kadeir neu cadeir) yw 'sedd, eisteddle' (wedi ei fenthyg o'r Lladin cathedra 'sedd'). Mewn enwau lleoedd gall olygu 'caer, amddiffynfa' neu 'mynydd neu fryn ar ffurf cadair'. Mae'r sillafiad cader yn cynrychioli ffurf lafar ar cadair.[3]

Ymddengys mai'r ffurf Cadair/Cadeir Idris a geir yn y ffynonellau Cymraeg cynharaf. Mewn cerdd a ysgrifennodd Lewys Glyn Cothi â'i law ei hun yn ail hanner 15g, ceir y llinell 'Dros gadair idris gêdy' ('Dros Gadair Idris gwedy').[4] Oddeutu 1600, cyfeiriodd John Jones, Gellilyfdy, yntau at 'y mynydh neu bhan neu bhoel a elwir Cadeir Idris'.[5]

Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, datblygodd y ffurf lafar a gynrychiolir gan y sillafiad cader. Oherwydd hynny gwelir y ffurf Cader Idris mewn dogfennau swyddogol Lladin a Saesneg o ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r Cyfnod Modern Cynnar ac mewn cofnodion Cymraeg a Saesneg mwy diweddar.[6]

Yn y geiriadur Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex a gyhoeddwyd yn 1632 gwahaniaethodd John Davies, Mallwyd, rhwng y ddau air cadair ('sedd') a cader ('caer, amddiffynfa'), gan gyfeirio at 'Cader Idris' a 'Cader Ddinmael'. Dilynwyd y dehongliad hwnnw gan rai geiriadurwyr diweddarach, gan gynnwys Thomas Charles[7] a Titus Lewis.[8] Derbynnir bellach, fodd bynnag, mai sillafiad o ffurf lafar ar cadair yw cader, ac nad oes sail i'r gred fod cadair a cader yn ddau air gwahanol.[9] Ond am ei fod yn adlewyrchu'r ynganiad tafodieithol lleol, mae'r sillafiad Cader Idris yn gyffredin yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ym Mehefin 2016 penderfynodd Parc Cenedlaethol Eryri ddefnyddio'r sillafiad hwnnw o hynny ymlaen.[10] Adlewyrchir y ffurf dafodieithol hefyd yn enw'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Gader.

Arthur's Seat golygu

Yn y 19g, bu ehangu ar y rheilffyrdd a thrwy hynny ehangu ar y diwydiant twristaidd. Gan fod diwydiant y Brenin Arthur yn denu twristiaid, ceisiwyd honni bod yr enw Idris yn ffurf amgen Gymreig am Arthur, ac mae Arthur's Seat oedd Cader Idris yn y Saesneg.[11]

Copaon golygu

 
Llyn Cau yn y blaendir a'r Gadair yn y pellter uchaf (dde).
 
Bryn Brith, Cader Idris
 
Lleoliad y copaon o Ddolgellau i Fachynlleth
Ei chywion:
Enw Cyfesurynnau OS Cyfesurynnau Daearyddol
Braich Ddu (Craig Cwm-llwyd): SH645120  map  52.688°N, 4.006°W
Bryn Brith: SH664153  map  52.718°N, 3.979°W
Cadair Idris - Penygadair: SH711130  map  52.699°N, 3.908°W
Ceiswyn: SH745109  map  52.681°N, 3.857°W
Corlan Fraith: SH630000  map  52.58°N, 4.023°W
Craig Cwm Amarch: SH710121  map  52.691°N, 3.91°W
Craig Lwyd: SH714118  map  52.688°N, 3.904°W
Craig Portas: SH801141  map  52.711°N, 3.776°W
Craig Portas (copa dwyreiniol): SH808142  map  52.712°N, 3.765°W
Craig y Castell: SH697161  map  52.726°N, 3.93°W
Craig-las (Tyrrau Mawr): SH677135  map  52.702°N, 3.959°W
Craig-y-llyn: SH665119  map  52.688°N, 3.976°W
Cribin Fawr: SH794152  map  52.72°N, 3.787°W
Cyfrwy: SH703133  map  52.701°N, 3.92°W
Esgair Berfa: SH637095  map  52.666°N, 4.016°W
Ffridd Cocyn: SH624042  map  52.618°N, 4.033°W
Ffridd-yr-Ychen: SN640977  map  52.56°N, 4.007°W
Foel Cae'rberllan: SH676082  map  52.655°N, 3.958°W
Foel Ddu: SH697095  map  52.667°N, 3.928°W
Foel Dinas: SH842143  map  52.713°N, 3.715°W
Foel y Geifr (Bro Dysynni): SH716050  map  52.627°N, 3.898°W
Gamallt: SH665067  map  52.641°N, 3.974°W
Gau Graig: SH744141  map  52.709°N, 3.86°W
Godre Fynydd: SH756097  map  52.67°N, 3.841°W
Graig Goch: SH714084  map  52.658°N, 3.902°W
Maesglase (hen GR) - Maen Du: SH822151  map  52.72°N, 3.745°W
Maesglase (copa gorllewinol): SH817150  map  52.719°N, 3.752°W
Mynydd Braich-goch: SH729072  map  52.647°N, 3.88°W
Mynydd Ceiswyn: SH772139  map  52.708°N, 3.819°W
Mynydd Cwmcelli: SH804099  map  52.673°N, 3.77°W
Mynydd Cwmeiddew: SH750106  map  52.678°N, 3.85°W
Mynydd Fron-fraith: SH747117  map  52.688°N, 3.855°W
Mynydd Gwerngraig: SH736136  map  52.705°N, 3.872°W
Mynydd Moel: SH727136  map  52.705°N, 3.885°W
Mynydd Pencoed: SH704117  map  52.687°N, 3.918°W
Mynydd Rhyd-galed (copa dwyreiniol Tarrenhendre): SH699043  map  52.62°N, 3.923°W
Pared y Cefn-hir: SH662149  map  52.715°N, 3.982°W
Pen Trum-gwr: SH651029  map  52.607°N, 3.993°W
Tal y Gareg: SH579041  map  52.616°N, 4.1°W
Tarren Cwm-ffernol: SH659023  map  52.601°N, 3.981°W
Tarren y Gesail: SH710058  map  52.634°N, 3.907°W
Tarrenhendre: SH682041  map  52.618°N, 3.948°W
Waun-oer: SH785147  map  52.716°N, 3.8°W

Llwybrau golygu

 
Y Gadair

Ymhlith y llwybrau ar y Gader ceir:

Llwybr Pilin Pwn

Yn ôl yr awdures Bethan Gwanas yn ei llyfr Y Mynydd Hwn, y llwybr mwyaf poblogaidd yw Llwybr Pilin Pwn sef yr un a adnabyddir yn Saesneg fel y "Pony Track". Mae'n cychwyn o Ddolgellau ac yn golygu 2,000 troedfedd o ddringo mewn 5 km.

Llwybr Minffordd

Llwybr sy'n dechrau ger Llyn Myngul ac sy'n mynd heibio Llyn Cau. Ei hyd yw 4.4 cilometr (2.7 milltir).

Llwybr Madyn

Mae Llwybr Madyn (neu Llwybr y Llwynog; "Foxes Path" yn Saesneg) yn llwybr 3.8 kilometr (2.4 milltir) o hyd sy'n cynnwys dringo 310 metr o gerrig mân (sgri). Dyma'r llwybr mwyaf uniongyrchol ond mae'r rhan olaf yn dioddef o erydu am ei fod mor boblogaidd.

 
Panorama o Gadair Idris

Hen benillion golygu

Ceir sawl un o'r Hen Benillion sy'n ymwneud â Chadair Idris:

Os oes coel ar bennau'r moelydd,
Buan daw yn chwerw dywydd;
Pan fo niwl ar Gadair Idris,
Yn ei thŷ ceir Lowri Lewis.[12]
Pe bae Cader Idris Fawr
Yn siwgwr gwyn o'i phen i lawr,
A dail y coed i gyd yn de,
Cystal gwlad drachefn â'r dre.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hugh Owen, 'Peniarth Ms.118, fos. 829-837: Introduction, transcript and translation,', Y Cymmrodor 17 (1927), 124.
  2. Hugh Owen, 'Peniarth Ms.118, fos. 829-837: Introduction, transcript and translation,', Y Cymmrodor 17 (1927), 124, 126 (y dyfyniad o 124). Defnyddiai John Jones <dh> a <bh> i gyfleu'r seiniau /ð/ a /v/ (a gyfleir gan <dd> a <f> heddiw).
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. 'cadair'.
  4. Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llawysgrif Peniarth 70, 21a; Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), t. 478 (221.16).
  5. Hugh Owen, 'Peniarth Ms.118, fos. 829-837: Introduction, transcript and translation,', Y Cymmrodor 17 (1927), 124. Defnyddiai John Jones <dh> a <bh> i gyfleu'r seiniau /ð/ a /v/ (a gyfleir gan
    a <f> heddiw).
  6. Gw. Archif Melville Richards d.e. 'Cadair Idris'.
  7. Thomas Charles,Geiriadur Ysgyrthurol (Wrecsam, Hughes a'i Fab: 1893), t. 137.
  8. Titus Lewis,Geirlyfr Cymraeg a Saesneg (Carmarthen, J. Evans: 1805), t. 42.
  9. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 61
  10. BBC Cymru Fyw, 'Parc Cenedlaethol: 'Cader' nid 'Cader''.
  11. Syr John Rhŷs; Celtic Folkelore Welsh and Manx Cyf 1 T 203
  12. Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 350.

Dolenni allanol golygu