Mynydd Ceiswyn
Lleolir Mynydd Ceiswyn tua 3 milltir i'r de o Fwlch Oerddrws a thua'r un pellter i'r gogledd o Aberllefenni yn ne Gwynedd; cyfeiriad grid SH772139. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 578metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Dyma gopa mwyaf gogleddol y gadwyn o fryniau glaswelltog sy'n ymestyn rhwng Llyn Myngul yn y gorllewin a chyffiniau Dinas Mawddwy a Mallwyd yn y dwyrain yn ne Meirionnydd. Cyfeirir at y bryniau hyn fel 'Bryniau Dyfi' weithiau, er na nodir yr enw hwnnw ar fap yr AO.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 605 metr |
Cyfesurynnau | 52.70881°N 3.81846°W |
Cod OS | SH7724513903 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 27.4 metr |
Rhiant gopa | Maesglase |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Gellir cyrraedd copa Mynydd Ceiswyn trwy ddilyn llwybr sy'n cychwyn tua 1.5 milltir i'r de o'r Crossfoxes ar yr A487. Dewis arall yw dechrau o Aberllefenni a dilyn y lôn i fyny hyd at Gwm Ratgoed a dilyn llwybr hyd Nant Ceiswyn i lwyfandir corslyd ac yna troi i'r gorlewin i esgyn Mynydd Ceiswyn ei hun.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; nid ydy'r mynydd hwn wedi'i gofrestru, bellach. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 605 metr (1985 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 22 Rhagfyr 2007.