Bwlch y Gorddinen

Bwlch mynydd yng Ngogledd cymru

Mae Bwlch y Gorddinen neu Bwlch y Gorddinan, a adnabyddir yn ogystal fel Y Crimea (Saesneg: The Crimea Pass), yn fwlch mynyddig yng ngogledd Cymru, ar lôn yr A470 rhwng Blaenau Ffestiniog i'r de a Dolwyddelan i'r gogledd. Mae pen y bwlch yn gorwedd yn sir Conwy ond mae'n disgyn i sir Gwynedd ar yr ochr arall, i'r de. Gorwedd y bwlch ar sawdl rhwng Moel Penamnen a Moel Farlwyd i'r dwyrain a Moel Ddyrnogydd i'r gorllewin.

Bwlch y Gorddinen
Golygfa ar Fwlch y Gorddinan o Gastell Dolwyddelan: gwelir y ffordd yn dringo i'r bwlch ar y chwith
Mathbwlch, ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd, Conwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr385 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0234°N 3.9382°W Edit this on Wikidata
Map

Yn ei fan uchaf mae'r bwlch yn gorwedd 385m (1,262 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae'r ffordd drosto yn cael ei chau gan eira yn y gaeaf weithiau. Ar un adeg bu tafarn, y Crimea Inn, ar ben y bwlch[1]. Mae'r tir yn agored ar ochr Dyffryn Lledr, ond mae'r ffordd yn disgyn yn serth i'r de i lawr i'r Blaenau trwy domenni llechi gwastraff trawiadol Chwarel Llechwedd. Mae'r daith i'r de dros y Bwlch yn adlewyrchu oes aur y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog, gyda degau o chwareli, yn cynnwys Gloddfa Ganol, Tal y Waenydd a'r Llechwedd yn creithio'r Moelwynion.

Er bod Bwlch y Gorddinan yn enw hen, gelwir y bwlch (Y) Crimea neu Pas Crimea ar lafar. Mae'r enw hwnnw yn dyddio o gyfnod Rhyfel Crimea, a ymladdwyd tua'r amser yr agorwyd y ffordd fodern dros y bwlch, rhwng 1854 a 1857[1]. Yn ôl traddodiad, codwyd nifer o'r waliau cerrig ger y bwlch gan garcharorion rhyfel o Rwsia a gawsant eu dal ym mrwydrau Inkerman a Balaclava.[2]

Dolenni allanol

golygu
  1. 1.0 1.1 "A470 BLAENAU FFESTINIOG TO CANCOED IMPROVEMENT ARCHAEOLOGICAL RECORDING REPORT" (PDF). Coflein. 2005. Cyrchwyd 7 Mehefin 2024.
  2. "Hansard".