Bwlch yr Efengyl
bwlch yn y Mynydd Du
Bwlch yn y Mynydd Du, Powys yw Bwlch yr Efengyl (Saesneg: Gospel Pass). Mae'n gorwedd rhwng Y Gelli Gandryll a Capel-y-ffin yn ne-ddwyrain Powys, bron am y ffin â Swydd Henffordd, Lloegr. Dyma'r bwlch uchaf yng Nghymru sydd â ffordd fodur gyhoeddus yn arwain drosto.
Disgyn o Fwlch yr Efengyl i gyfeiriad Dyffryn Ewias | |
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9044°N 3.0201°W |
Gorwedd pen y bwlch 549 metr (1,800 troedfedd) i fyny rhwng mynyddoedd Twmpa (690 m), i'r gorllewin a Hay Bluff (677 m), i'r dwyrain, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae lôn fynydd yn ei groesi sy'n rhan o Lôn Las Cymru, y llwybr beicio cenedlaethol.[1]
O ben y bwlch ceir golygfeydd dros Ddyffryn Ewias i'r de a Dyffryn Gwy i'r gogledd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lôn Las Cymru: 42 ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.