Moel y Gamelin

bryn (576.9m) yn Sir Ddinbych
(Ailgyfeiriad o Mynydd Llandysilio)

Mynydd yn Sir Ddinbych yw Moel y Gamelin (578 metr). Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 2.5 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Dyma bwynt uchaf y gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de.

Moel y Gamelin
Mathbryn, safle archaeolegol, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr577 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0096°N 3.229°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1763646520 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd382 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel y Gamelin Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBryniau Clwyd Edit this on Wikidata
Map

Ar graig arall gerllaw ceir Moel y Gaer, sy'n safle bryngaer sylweddol o Oes yr Haearn.

Crug crwn ar y copa

golygu

Ceir crug crwn a godwyd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ar y copa, sy'n dyddio o Oes yr Efydd ar gopa'r mynydd. Mae'n mesur 30 metr o gylch ac mae'n 1.8 metr o uchder. Pridd a cherrig yw deunydd y garnedd ac mewn canlyniad mae wedi dioddef erydu gan gerddwyr a beiciau mynydd.[1] Yn ôl gwefan Coflein, fodd bynnag, mae mewn cyflwr da ("heb ei falurio").[2]

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE068.[3] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[4]

Oriel luniau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 29.
  2. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-13. Cyrchwyd 2010-11-07.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato