Bwncath (band)
band gwerin Cymraeg o Gaernarfon
Band gwerin Cymraeg o Gaernarfon yw Bwncath. Ffurfiwyd y band pedwar-aelod yn 2014.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Label recordio | Rasal |
Dechrau/Sefydlu | 2014 |
Genre | Canu gwerin |
Elidyr Glyn
golyguPrif ganwr y band yw'r gitarydd Elidyr Glyn sy'n adnabyddus gan iddo ennill Cân i Gymru 2019, gyda’i gân Fel Hyn 'Da Ni Fod.[2] Enillodd Dlws Alun Sbardun Huws yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 am gyfansoddi'r gân Curiad Y Dydd.[3]
Aelodau
golyguPerfformiadau
golyguMae Bwncath wedi perfformio’n fyw mewn amryw o ddigwyddiadau ledled Cymru, megis, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Rhuthun, a Gŵyl Fach y Fro, i enwi ond rhai. Maent wedi ymddangos ar Noson Lawen ar S4C hefyd.[6]
Disgyddiaeth
golyguCyhoeddir cerddoriaeth Bwncath ar label recordio Rasal.[7]
Albymau
golygu- Bwncath (2017)
- Bwncath - II (2020)
Senglau
golygu- Fel Hyn 'Da Ni Fod (2019)
- Clywed Dy Lais (2019)
- Aderyn Bach (2023)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://cy-gb.facebook.com/pg/bwncath/about/
- ↑ "Elidyr Glyn yn ennill Cân i Gymru 2019". BBC Cymru Fyw. 1 Mawrth 2019.
- ↑ "Tlws Sbardun wedi bod yn "hwb i hyder" Elidyr Glyn". Golwg360. 15 Hydref 2017.
- ↑ "Bwncath – band prysura'r wlad". Golwg360. 2022-12-30. Cyrchwyd 2023-11-24.
- ↑ "Athro sydd yn aelod o fand Bwncath wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn". newyddion.s4c.cymru. 2023-11-24. Cyrchwyd 2023-11-24.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=0pQO89_AzRQ
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-27. Cyrchwyd 2020-06-24.