Cân i Gymru 2019
Cynhaliwyd Cân i Gymru 2019 ar 1 Mawrth 2019 yng Nghanolfan y Cefyddydau, Aberystwyth.[1] Aeth 50 mlynedd heibio, ers lansio'r gystadleuaeth Cân i Gymru nôl yn 1969 pan enillwyd y gystadleuaeth gan Margaret Williams am Y Cwilt Cymreig. Cyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Trystan Ellis Morris a darlledwyd y sioe yn fyw ar S4C.
Cân i Gymru 2019 | |
---|---|
Rownd derfynol | 6 Mawrth 2019 |
Lleoliad | Canolfan y Cefyddydau, Aberystwyth |
Artist buddugol | Elidyr Glyn |
Cân fuddugol | Fel Hyn 'da Ni Fod |
Ysgrifenn(wyr) buddugol | Elidyr Glyn |
Cân i Gymru | |
◄ 2018 2020 ► |
Yr enillydd oedd Elidyr Glyn, Bangor am ei gân Fel Hyn 'da Ni Fod. Bydd Elidyr Glyn yn derbyn gwobr o £5,000 a bydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.[2] Cynhyrchwyd y rhaglen gan gwmni Avanti.
Trefn | Artist | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
---|---|---|---|---|---|
01 | Mared Williams a Jacob Elwy | Gewn ni Weld Sut Eith Hi | Rhydian Meilir | 2il | £2,000 |
02 | Miriam Isaac | Tyrd yn Agos | Emyr Rhys | ||
03 | Garry Owen Hughes | Tydw i'n Dda | Garry Owen Hughes a Gareth Ellis | ||
04 | Elen Haf Taylor | Ti a Fi | Sion Roberts a Rhys Jones | ||
05 | Elidyr Glyn | Fel Hyn 'da ni Fod | Elidyr Glyn | 1af | £5,000 |
06 | Celyn Llwyd Cartwright | Paid â Phoeni | Adam Wachter a Gareth Owen | ||
07 | Mali Melyn | Aros Funud | Mali Melyn | ||
08 | Dyfrig Evans | LOL | Dyfrig Evans | 3ydd | £1,000 |
Dychan
golyguCafwyd adolygiad ddychannol o'r gystadleuaeth a'r rhaglen gan gymeriad DJ Bry ar Hansh (gwasanaeth ar-lein S4C i gynulleidfa iau a llai traddodiadol y Sianel.[3]
Arddangosfa
golyguCafwyd arddangosfa yn amlinellu hanes y gystadleuaeth yn ardal bwyty Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd-fynd gyda'r gystadleuaeth. Dangosau'r arddangosfa luniau a dyfyniadau gan gyn berfformwyr a threfnwyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "S4C launches 2011 Cân i Gymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-13. Cyrchwyd 2019-03-02.
- ↑ Gwefan S4C; adalwyd 2 Mawrth 2019.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=jIGJoUcbd0M