Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Corff cynhyrchu ffilmiau oedd y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg a ffurfiwyd ym mis Gorffennaf 1970. O ganlyniad i ysgol breswyl ar Gyfryngau Llenyddol Newydd yng Ngregynog, ger y Trallwng, fe'i ffurfiwyd o dan adain Cyngor Celfyddydau Gogledd Cymru. Ei nod oedd annog a hyrwyddo cynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg.

Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Ei enw cychwynnol oedd Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog cyn newid i Bwrdd Ffilmiau'r Gogledd yn 1972 ac yna Bwrdd Ffilmiau Cymraeg yn fuan wedyn. Cynhyrchwyd sawl ffilm cyn i'r bwrdd gael ei ddiddymu ym mis Medi 1986.[1]

Mae deunydd ffilm a chofnodion gweinyddol y bwrdd wedi eu harchifo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cynyrchiadau

golygu

Cynhyrchwyd sawl ffilm gofiadwy gan y bwrdd yn cynnwys un o'r ffilmiau arswyd cyntaf yn Gymraeg, O'r Ddaear Hen a'r "comedi tywyll" Gwaed Ar Y Sêr. Aethpwyd a'r ffilmiau hyn ar daith o Gymru ac fe'u dangoswyd i nifer o blant ysgol gynradd; yn dilyn hyn roedd storiau yn y papurau newydd am fod rhieni yn cwyno fod y ffilmiau wedi eu dychryn eu plant.[2]

Ar ôl lansio S4C yn 1982, ffilm fawr gyntaf y sianel a ddangoswyd adeg y Nadolig y flwyddyn honno oedd Madam Wen, addasiad o nofel antur wedi'i gosod yn Sir Fôn. Yn dilyn helbul am orwario ar y ffilm, syrthiodd y bai ar bennaeth y Bwrdd Ffilmiau ar y pryd, Gwilym Owen. Fe'i orfodwyd gan S4C i adael swydd pennaeth y bwrdd ond cafodd ei gydnabod fel cynhyrchydd ar gredydau y ffilm.[3]

Rhestr cynyrchiadau

golygu
Ffilmiau a gomisiynwyd gan y bwrdd
Ffilmiau gwreiddiol i blant
  • Crochendy Syr Wynff a Mici (1979)
  • Garej Syr Wynff a Mici (1979)
  • Teliffant (1979)
Ffilmiau'r bwrdd fel uned gynhyrchu annibynnol

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, archifau. Adalwyd ar 12 Medi 2017.
  2. Y ffilm wnaeth ddychryn plant Cymru , BBC Cymru Fyw, 6 Tachwedd 2016. Cyrchwyd ar 12 Medi 2017.
  3.  Cofio: Dyma 1982. BBC Cymru. Adalwyd ar 12 Medi 2017.