Mae Teisennau Mair yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1979 gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Gareth Wynn Jones.

Teisennau Mair
Cyfarwyddwr Gareth Wynn Jones
Cynhyrchydd Gwilym Owen
Ysgrifennwr Iwan Meical Jones
Cerddoriaeth Dulais Rhys
Sinematograffeg Graham Edgar, Kevin Duggan
Golygydd Huw Griffiths
Sain Bob Webber, John Cross
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Dyddiad rhyddhau 1979
Amser rhedeg 60 munud
Iaith Cymraeg
Cyllideb £56,000

Crynodeb

golygu

Ffilm gyfnod Edwardaidd gyda theimlad gothig iddi sy’n dilyn helyntion cariadol Mair (Marged Esli), wrth iddi adael ei chariad sy’n ofaint ifanc lleol o’r enw Llew (Cefin Roberts) am barchusrwydd dyn cyfoethog o'r enw Goronwy (J. O. Roberts). Defnyddia'r ffilm lawer o symboliaeth i gyfleu’r trasiedi sydd i ddod wrth i baranoia ei gŵr am ei anffyddlondeb â Llew droi’n drasiedi i’r tri.

Cast a chriw

golygu

Prif gast

golygu

Cast cefnogol

golygu
  • Clive Roberts
  • Glyn Williams

Cydnabyddiaethau eraill

golygu
  • Cynorthwywr i’r Cyfarwyddwr – Angharad Anwyl
  • Coluro – Mary Hillman
  • Gwisgoedd – Kate Fox
  • Celfi – Arthur Evans
  • Graffeg – Ian Cellan Jones

Manylion technegol

golygu

Fformat saethu: 16mm

Lliw: Lliw

Lleoliadau saethu: Grugan Ddu, Y Groeslon.

Gwobrau: Prif Wobr yr Wyl Ffilmiau Geltaidd, Harlech 1981.

Llyfryddiaeth

golygu
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Teisennau Mair ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.