Gwaed Ar Y Sêr
Ffilm Gymraeg arswyd yw Gwaed Ar Y Sêr a ryddhawyd ym 1975. Cafodd y ffilm ei gynhyrchu gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg a'i gyfarwyddo gan Wil Aaron. Fe'i saethwyd mewn 10 diwrnod am gost o £6,000.
Cyfarwyddwr | Wil Aaron |
---|---|
Ysgrifennwr | Wil Sam, Dafydd Huw Williams |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Bwrdd Ffilmiau Cymraeg |
Dyddiad rhyddhau | 1975 |
Amser rhedeg | tua 45 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Mae'r stori yn dilyn hen ddyn - Shadrach Smith (Grey Evans) a'i gôr o blant ysgol sydd yn ceisio atal nifer o enwogion rhag ymddangos mewn cyngerdd fawreddog yn y neuadd bentref lleol drwy eu llofruddio mewn amryw ffyrdd.
Ymysg yr enwogion mae Hywel Gwynfryn, Dafydd Iwan yn ymddangos fel ei hunain a Stewart Jones yn ei gymeriad Ifans y Tryc. Ysgrifennwyd y sgript gan Dafydd Huw Williams a Wil Sam (a greuodd cymeriad Ifans y Tryc) gyda trigolion ardal Nant Peris yn actorion ychwanegol. Disgyblion Ysgol Brynrefail oedd yn chwarae y plant cythreulig/felltithiedig.[1]
Fe ddarlledwyd y ffilm ar S4C ar 2 Chwefror 2013.
Cast a chymeriadau
golygu- Grey Evans – Shadrach Smith
- Dyfan Roberts – Heddwas
- Wynford Ellis Owen – Prif Arolygydd Bevan
- Dafydd Hywel – Cynorthwyydd i'r Brif Arolgydd
- Charles Williams – Cadeirydd pwyllgor y neuadd
- John Pierce Jones – Ail gwnstabl
- Stewart Jones – Ifans y Tryc
- Eleanor Jones (Telynores Dwyryd) – Ei hun
- Barry John – Ei hun
- Hywel Gwynfryn – Ei hun
- Dafydd Iwan – Ei hun
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwaed Ar Y Sêr ar wefan Internet Movie Database
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Archifau a Llawysgrifau LlGC. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 20 Mai 2016..