Mae O'r Ddaear Hen yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1981 gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Wil Aaron.

O’r Ddaear Hen
Cyfarwyddwr Wil Aaron
Cynhyrchydd Gwilym Owen
Ysgrifennwr Gwyn Thomas
Sinematograffeg Graham Edgar
Golygydd Lewis Fawcett
Sain Gus Lloyd
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Amser rhedeg 50 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Crynodeb golygu

Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dŷ cyngor daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddiorfodi i William symud y pen o’r tŷ. Yn ei dro aiff a’r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy’n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy’n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw’r pen aiff a fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tŷ. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

  • Valerie Wynne-Williams (Miriam Vaughan)
  • J. O. Roberts (Arthur Vaughan)
  • Bethan Jones (Anna Vaughan)
  • Lindsay Evans (Alan Wyn)
  • Charles Williams (William Jones)
  • Elen Roger Jones (Jane Jones)

Cast cefnogol golygu

Rhannau eraill
  • Fred Williams
  • Jim Fieldsend
  • Victor Tudor
  • Alwyn Pleming
  • Aelodau o Theatr Fach Llangefni

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Cynorthwywr camera – Kevin Duggan
  • Cynorthwywr sain – Bob Webber
  • Rheolwr cynhyrchu – Gwynfryn Roberts
  • Coluro – Mary Hillman
  • Cynorthwydd cynhyrchu – Shân Davies

Manylion technegol golygu

Fformat saethu: 16mm

Math o sain: Mono

Lliw: Lliw

Lleoliadau saethu: Prifysgol Bangor; Din Llugwy, Mon.

Llyfryddiaeth golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod O'r Ddaear Hen ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.