Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Saif Castell Windsor, cartref Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn y fwrdeistref; am y rheswm hwn mae'n cynnwys y gair "brenhinol" yn ei henw.
Math |
Dosbarth, awdurdod unedol, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Berkshire |
Prifddinas |
Maidenhead ![]() |
Poblogaeth |
150,906 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Berkshire (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
196.5017 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
51.4667°N 0.6667°W ![]() |
Cod SYG |
E06000040 ![]() |
GB-WNM ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Bwrdeistref Windsor a Maidenhead ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 197 km², gyda 150,906 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Reading a Bwrdeistref Wokingham i'r gorllewin, Bwrdeistref Slough i'r dwyrain, Swydd Buckingham i'r gogledd a Surrey i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.
Lleolir pencadlys yr awdurdod yn Maidenhead. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Ascot, Eton a Windsor, a'r pentrefi mawr Bray, Cookham, Datchet, Sunningdale, Sunninghill a Wraysbury.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 13 Ebrill 2020