Bwrdeistref Southend-on-Sea
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Essex, Dwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Southend-on-Sea (Saesneg: Borough of Southend-on-Sea).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref, bwrdeistref sirol, ardal gyda statws dinas, Bwrdeistref Ddinesig |
---|---|
Poblogaeth | 180,915 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 41.7557 km² |
Cyfesurynnau | 51.5367°N 0.7147°E |
Cod SYG | E06000033 |
GB-SOS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Southend-on-Sea City Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 41.8 km², gyda 183,125 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Castle Point i'r gorllewin, Ardal Rochford i'r gogledd, ac Aber Tafwys i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Essex, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1998.
Rhennir y fwrdeistref yn ddwy ran, sef ardal fawr di-blwyf sy'n cynnwys tref Southend-on-Sea ei hun, ac un plwyf sifil gweddol fach sy'n cynnwys tref Leigh-on-Sea. Mae'r ardal ddi-blwyf yn cynnwys yr anneddiadau Chalkwell, Eastwood, North Shoebury, Prittlewell, Shoeburyness, Southchurch, Thorpe Bay, a Westcliff-on-Sea.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2020