Byddin Genedlaethol (Iwerddon)

byddin Gwladwriaeth Rydd Iwerddon

Ffurfiwyd y Fyddin Genedlaethol yn Ionawr 1922 a daeth i ben yn Hydref 1924 (Saesneg: National Army neu'n answyddogol Free State army); ei bwrpas oedd torri'n rhydd oddi wrth Lloegr, gan greu ynys Iwerddon gyfan yn un wladwriaeth annibynnol.[1]

Y Fyddin Genedlaethol
Cyfranogwr yn Rhyfel Cartref Iwerddon
Bathodyn Cap Aelodau'r Fyddin Genedlaethol
Yn weithredol31 Ionawr 1922 – 1 Hydref 1924
ArweinwyrMichael Collins
Maes gweithredolDe Iwerddon,
a alwyd yn ddiweddarach yn
'Wladwriaeth Rydd Iwerddon'
Cryfder55,000
Ffurf wreiddiolByddin Weriniaethol Iwerddon (IRA)
Newidiwyd ynByddin bresennol Gweriniaeth Iwerddon
GwrthwynebwyrLloegr/'Prydain';
pobl gwrth-Gytundeb;
Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69) (IRA)

Fe'u ffurfiwyd allan o Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916-22) a'r 'Gwirfoddolwyr Gwyddelig', cyn hynny a ffurfiwyd 25 Tachwedd 1913.[2]

Cefndir golygu

Yn dilyn arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, a ddaeth a'r Rhyfel dros Annibyniaeth i ben, holltwyd yr IRA, gan fod rhai o blaid ac eraill yn erbyn y Cytundeb. Ffurfiodd yr aelodau a oedd o blaid y Cytundeb fudiad newydd o'r enw y 'Fyddin Genedlaethol', a sefydlwyd gan Michael Collins; ef hefyd oedd y chief of staff hyd at ei farwolaeth yn Awst 1922. Ond roedd mwyafrif yr aelodau'n erbyn y Cytuneb; daethant at ei gilydd i ffurfio Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69) (Irish Republican Army), gan lynnu at yr hen enw. Daeth y ddwy fyddin benben â'i gilydd rhwng 1922 a 1923 yn Rhyfel Cartref Iwerddon. Ond yr un oedd nod y ddwy fyddin: ffurfio gwladwriaeth hollol annibynnol o Loegr.

Pwrpas Byddin Genedlaethol Iwerddon, felly, oedd amddifyn y sefydliadau a grewyd o ganlyniad i'r Cytundeb.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cottrell, Peter: The Irish Civil War 1922–23, Osprey Publishing Ltd. (2008) ISBN 978-1-84603-270-7
  2. G White & B O'Shea, Irish Volunteer Soldier 1913–23, Osprey 2003, tt15.