Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69)
Byddin neu gorfflu o Wyddelod cenedlaetholgar oedd Byddin Weriniaethol Iwerddon (hefyd: IRA) a gredent yn annibyniaeth Iwerddon gyfan ac a sefydlwyd yn 1922. Gwrthwynebant arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr 1921, a buont yn brwydro yn Rhyfel Cartref Iwerddon ac yna yn erbyn Prydain hyd at 1969.
Byddin Weriniaethol Iwerddon Irish Republican Army Óglaigh na hÉireann | |
---|---|
Cyfranogwr yn Rhyfel Cartref Iwerddon a'r Helyntion (the Troubles) | |
Liam Lynch, Prif Swyddog (Chief of Staff) a fu farw yn Rhyfel Cartref Iwerddon. | |
Yn weithredol | Mawrth 1922–Rhagfyr 1969 |
Arweinwyr | Cyngor Byddin yr IRA |
Maes gweithredol | Iwerddon Lloegr |
Cryfder | 14,500 (uchafswm) 1,000 (lleiafswm) |
Ffurf wreiddiol | Byddin Weriniaethol Iwerddon (Irish Republican Army) |
Newidiwyd yn | Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (Provisional IRA), Byddin Swyddogol Gweriniaeth Iwerddon (Official Irish Republican Army]] |
Gwrthwynebwyr | Y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Rydd Iwerddon |
Rhyfeloedd a brwydrau | Rhyfel Cartref Iwerddon (1922–1923) IRA Sabotage Campaign (1939–1940) IRA Northern Campaign (1940–1942) IRA Border Campaign (1956–1962) Yr Helyntion (1966–1969) |
- Ceir sawl byddin sy'n defnyddio'r enw hwn. Mae'r erthygl hon yn ymwneud a'r fyddin gwrth-Gytundeb 1921 a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Iwerddon ac yn erbyn Prydain hyd at 1969.
Sgil effaith arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr ar 6 Rhagfyr 1921 oedd rhannu'r Gwyddelod milwriaethus yn ddwy garfan: 1. 'Fyddin Genedlaethol', a sefydlwyd gan Michael Collins ac a oedd o blaid y Cytundeb a 2. Byddin Weriniaethol Iwerddon a oedd yn erbyn y Cytuneb, gan nad oedd y Cytundeb, yn eu barn nhw, yn ddigon cryf nac yn ddigonol. Annibyniaeth Iwerddon gyfan oedd nod Byddin Weriniaethol Iwerddon. Daeth y ddwy fyddin benben â'i gilydd rhwng 1922 a 1923 yn Rhyfel Cartref Iwerddon.
Enw
golyguGelwid y Fyddin Weriniaethol hon weithiau'n anti-Treatyites neu gan filwyr Iwerddon Rydd fel Irregulars,[1], ond fel arfer, fel: The Irish Republican Army (IRA) neu mewn Gwyddeleg: Óglaigh na hÉireann.[2][3] Mabwysiadwyd yr enw Óglaigh na hÉireann hefyd gan y Fyddin Genedlaethol fel eu henw nhw ac mae'r term yn parhau yn enw swyddogol, cyfreithiol ar fyddin bresennol Gweriniaeth Iwerddon.[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Bathwyd y term The Irregulars gan Piaras Béaslaí
- ↑ http://www.irishexaminer.com/ireland/sectarian-violence-and-murder-spreads-across-the-north-199309.html
- ↑ http://www.irishtimes.com/news/politics/michael-collins-and-anti-treaty-side-did-deal-to-encourage-trouble-in-north-1.1949924
- ↑ Rhan 3, Deddf Amddiffyn (Dros Dro) 1923. Gweler hefyd: Rhan 16, Deddf Amddiffyn, 1954.