Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon
Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Cogadh na Saoirse) yw'r enw ar y rhyfel a ymladdwyd o Ionawr 1919 hyd Gorffennaf 1921 rhwng Byddin Weriniaethol Iwerddon, yr IRA, fel llu arfog y Dáil Cyntaf, a lluoedd arfog y llywodraeth Brydeinig yn Iwerddon.
Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916, a dienyddio'r arweinwyr gan lywodraeth Prydain, bu cynnydd yn y gefnogaeth gyhoeddus i Sinn Féin, plaid y gweriniaethwyr. Cynyddwyd hyn pan geisiodd y llywodraeth Brydeinig ymestyn gorfodaeth filwrol i Iwerddon yn 1918. Yn etholiad cyffredinol 1918, enillodd Sinn Féin fwyafrif mawr o'r seddau yn Iwerddon. Ffurfiasant senedd Wyddelig, Dáil Éireann, yn dilyn cyhoeddiad o annibyniaeth.
Roedd tactegau Byddin Weriniaethol Iwerddon yn bennaf yn ymosodiadau gerila, dan arweiniad Michael Collins. Yn eu herbyn roedd y Royal Irish Constabulary (RIC), a'r fyddin Brydeinig, yn cynnwys unedau cynorthwyol megis yr Auxiliaries a'r Black and Tans. Ymhlith y digwyddiadau pwysicaf, roedd yr hyn a ddigwyddodd ar 21 Tachwedd, 1920, pan laddwyd 14 o swyddogion y fyddin Brydeinig oedd wedi bod yn hel gwybodaeth am yr IRA. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, aeth carfan o'r Auxiliaries i Barc Croke, lle roedd gêm Beldroed Wyddelig yn cael ei cynnal, a saethu 13 o'r dyrfa oedd yn gwylio'r gêm ac un o'r chwaraewyr. Ar 28 Tachwedd 1920, roedd carfan o'r IRA yn disgwyl am batrol o'r Auxiliaries ger Kilmichael yn Swydd Cork, a lladdasant 17 ohonynt.
Bu farw Argwlydd Faer Corc, Terence MacSwiney, ar streic newyn yng ngharchar Brixton yn Llundain ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Ar 24 Mehefin 1921, cynigiodd y llywodraeth Brydeinig, dan David Lloyd George, drafodaethau heddwch gydag arweinwyr Sinn Féin. Awrweiniodd hyn at gytundeb heddwch, gyda gwladwriaeth annibynnol yn cael eu chreu yn Iwerddon, ond gyda'r hawl i Ogledd Iwerddon beidio ymuno â hi.
Roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Gwyddelig, gan arweiniad Arthur Griffith a Michael Collins, yn barod i dderbyn hyn, ond roedd carfan yn mynnu y dylai'r wladwriaeth annibynnol newydd gynnwys Iwerddon oll. Gwrthododd carfan sylweddol o'r IRA, dan Liam Lynch, dderbyn y Cytundeb, a chefnogwyd hwy gan Eamon de Valera, Cathal Brugha ac Austin Stack. Arweiniodd hyn at ryfel cartref rhwngddynt hwy a chefnogwyr y cytundeb. Er i Michael Collins gael ei ladd yn Awst 1922, cefnogwyr y Cytundeb fu'n fuddugol.
Llyfryddiaeth
golygu- Coogan, Tim Pat. Michael Collins
- Collins, M. E. Ireland 1868-1966 (Educational Company, 1993)
- Lyons, F. S. L. Ireland Since the Famine
- MacCardle, Dorothy. The Irish Republic (Corgi paperback)
- Pakenham, Frank (Earl of Longford). Peace By Ordeal: An Account from First-Hand Sources of the Negotiation and Signature of the Anglo-Irish Treaty of 1921 (1935) ISBN 978-0-283-97908-8
- Hopkinson, Michael. The Irish War of Independence (Gill & Macmillan, 2002)
- Hopkinson, Michael. Green against Green, the Irish Civil War (Gill & Macmillan, 2004)
- Hart, Peter. The IRA at War 1916-1923 (Rhydychen: Oxford University Press, 2003). ISBN 0-19-925258-0
- Hart, Peter. The IRA and Its Enemies: Violence and Community in Cork, 1916-1923 (Rhydychen: Oxford University Press, 1998). ISBN 0-19-820806-5
- Ryan, Meda. Tom Barry: IRA Freedom Fighter (Corc: Mercier Press, 2003). ISBN 1-85635-425-3
- English, Richard. Armed Struggle, a History of the IRA (MacMillan, 2003)
- Comerford, Richard. Ireland: Inventing the Nation (Hodder, 2003).