Cân i Gymru 1986
Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 1986 ar Ddydd Gŵyl Dewi. Enillydd y gystadleuaeth oedd Eirlys Parri gyda'r gân 'Beth Ddylwn i Ddweud?'
Cyflwynwyd y rhaglen gan Margaret Williams. Roedd pump o feirniaid ar y panel dewis: Geraint Lovgreen, Caryl Parry Jones, Linda Healy, Myfyr Isaac, a Huw Chiswell.
Eirlys Parri a Llwybr Cyhoeddus oedd yr artistiaid fu'n canu'r caneuon.
Roedd chwe chan yn cystadlu:
Trefn | Artist | Can | Cyfansoddw(y)r |
---|---|---|---|
01 | Eirlys Parri | Pan Ddaw yr Haf | Arfon Wyn |
02 | Llwybr Cyhoeddus | Y Ddinas | Paul Gregory a Ieuan Rhys |
03 | Llwybr Cyhoeddus | Deffro 'da Dieithryn | Betsan Gerallt-Evans a Catrin Gerallt |
04 | Eirlys Parri | Darn o'r Haul | Steffan Roberts a Ieuan Wyn |
05 | Llwybr Cyhoeddus | Ni sy'n Dewis | Steven Mold a Meurig Watts |
06 | Eirlys Parri | Beth Ddylwn i Ddweud? | Mari Emlyn |
Cân i Gymru 1986 | |
---|---|
Rownd derfynol | 1 Mawrth 1986 |
Lleoliad | Stiwdio BBC Cymru, Caerdydd |
Artist buddugol | Eirlys Parri |
Cân fuddugol | Beth Ddylwn i Ddweud? |
Cân i Gymru | |
◄ 1985 1987 ► |