Cân i Gymru 1987


Cynhaliwyd deunawfed cystadleuaeth Cân i Gymru ar 15 Mawrth 1987. Darlledwyd y gystadleuaeth yn fyw o Landudno.

Cân i Gymru 1987
Rownd derfynol 15 Mawrth 1987
Lleoliad Theatr Gogledd Cymru, Llandudno
Artist buddugol Eryr Wen
Cân fuddugol Gloria Tyrd Adre
Cân i Gymru
◄ 1986        1988 ►

Cyflwynwyd y rhaglen gan Caryl Parry Jones ac roedd yn gynhyrchiad gan gwmni Teledu'r Tir Glas ar gyfer S4C.

Roedd wyth cân yn cystadlu am y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Eryr Wen oedd yr enillydd gyda'r gân 'Gloria Tyrd Adre'.

Artist Cân Cyfansoddw(y)r
Llion Wyn Ymlaen â'r Gân Robin Llwyd ab Owain
Robat Arwyn
Siân James Dim ond Ddoe
Eryr Wen Gloria Tyrd Adre[1]
Leah Owen Pelydrau'r Gwenwyn
Robyn Eiddior Aros
Nerys Jones Digon i'r Diwrnod ei Ddrwg ei Hun
Geraint Jones Ga' i Weld Yfory
Trisgell Gwin Beaujolais[2] Robin Llwyd ab Owain
Robat Arwyn

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Can i Cymru 1987 – Gloria Tyrd Adref". Youtube. Cyrchwyd 4 Hydref 2020.
  2. "Gwin Beaujolais". Youtube. Cyrchwyd 4 Hydref 2020.