Cân i Gymru 2006
Cynhaliwyd Cân i Gymru 2006 ar Ddydd Gwyl Dewi yng nghanolfan yr Afan Lido ym Mhort Talbot. Cyflwynwyd y rhaglen gan Sarra Elgan a Hefin Thomas, prif leisydd y band Mattoidz.
Cân i Gymru 2006 | |
---|---|
Rownd derfynol | 1 Mawrth 2006 |
Lleoliad | Afan Lido, Port Talbot |
Artist buddugol | Ryland Teifi |
Cân fuddugol | Lili'r Nos |
Cân i Gymru | |
◄ 2005 2007 ► |
Dyma'r gystadeluaeth gyntaf o dan ofal cwmni cynhyrchu Avanti, ac fe'i nodir am gyflwyno delwedd a logo cyson i'r rhaglen, ac agorawd cerddorol trawiadol gan Catrin Finch yn canu'r delyn.
Dyma'r tro cyntaf i ganeuon gael eu cyflwyno o dan dri chategori: y cyhoedd, cyfansoddwyr, a pherfformwyr. Dyma ymddangosiad cyntaf y gantores Amy Wadge, a aeth ymlaen i gyfansoddi caneuon ar gyfer Ed Sheeran.
Bu 9 cân yn cystadlu. Enillydd y gystadleuaeth oedd Ryland Teifi gyda'r gân 'Lili'r Nos'.
Trefn | Categori | Artist | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
---|---|---|---|---|---|---|
Steffan Rhys Williams | Jiwbili | Geraint Griffiths | ||||
Amy Wadge | Anodd dy Garu | Amy Wadge | ||||
Tara Bethan | Golau'r Ffair | Robert Gavin ac Iwan Roberts | 1af (categori) | £3,000 | ||
Dyfrig Wyn Evans | Byw i'r Funud | Dyfrig Wyn Evans | ||||
Ryland Teifi | Lili'r Nos | Ryland Teifi | 1af (categori a'r gystadleuaeth) | £10,000 | ||
Iolo Edger | Siarad 'da Fi | Iolo Edger | ||||
Beth Williams | Llygaid Disglair | Dafydd Saer | ||||
Dan Amor | Digon yw Digon | Steffan Ellis | 1af (categori) | £3,000 | ||
Rebecca Trehearne | Edifar | Heledd Wyn |