Actor, canwr a chyfansoddwr Cymreig yw Ryland Teifi (ganwyd 12 Rhagfyr 1972). Mae'n adnabyddus am chwarae rôl Peter Marshall yn y gyfres deledu Caerdydd ac fel Douglas Green yn y gyfres deledu Pen Talar. Yn 2009 a 2010 cafodd ei enwebu gan BAFTA Cymru yn y categori Actor Gorau. Symudodd i Iwerddon yn 2011 a chanolbwynto ar ei yrfa gerddorol gyda ei fand Mendocino.

Ryland Teifi
Ganwyd12 Rhagfyr 1972 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata

Daw o bentref Ffostrasol yn wreiddiol, lle arferai ei rieni redeg siop y pentref. Mae Teifi ei hun yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi yn Llandysul.

Bywyd personol golygu

Cyfarfu ei wraig Roisin Clancy tra oedd yn gweithio gyda cwmni theatr Arad Goch yng Nghaerdydd ac mae ganddynt tair o ferched. Bu'r teulu yn byw yng Y Barri am 12 mlynedd cyn symud, yn 2011, i An Rinn, Swydd Waterford, Iwerddon.[1]

Ffilmyddiaeth golygu

Disgyddiaeth golygu

  • Heno (2005)
  • Lili'r nos
  • Under the Blue

Cyfeiriadau golygu

  1. Award-winning actor Ryland Teifi reveals his musical side (en) , WalesOnline, 3 Chwefror 2012. Cyrchwyd ar 16 Mawrth 2017.

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.