Cân i Gymru 2021
Cynhaliwyd Cân i Gymru 2021 ar 5 Mawrth yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Cân i Gymru 2021 | |
---|---|
Rownd derfynol | 5 Mawrth 2021 |
Lleoliad | Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd |
Artist buddugol | Morgan Elwy |
Cân fuddugol | Bach o Hwne |
Ysgrifenn(wyr) buddugol | Morgan Elwy Williams |
Cân i Gymru | |
◄ 2020 2022 ► |
Oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19, nid oedd cynulleidfa fyw, ond ymddangosodd rhith-gynulleidfa ar y llwyfan drwy'r rhyngrwyd. Derbyniwyd 96 o ganeuon i'r gystadleuaeth eleni a dewiswyd rhestr fer gan banel y beirniaid, sef Osian Williams (canwr Candelas), Angharad Jenkins (ffidlwr Calan), y gantores Tara Bethan a’r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell. Dewiswyd 8 cân i'w perfformio ar y noson.[1]
Enillydd y gystadleuaeth oedd Morgan Elwy Williams gyda'r gân "Bach o Hwne".
Trefn | Artist | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
---|---|---|---|---|---|
01 | Mari Mathias | Y Goleuni | Mari Mathias | ||
02 | Leri Ann | Siarad yn fy nghwsg | Melda Lois Griffiths | 3ydd | £1,000 |
03 | Melda Lois Griffiths | Hwyliau Llonydd | Melda Lois Griffiths | ||
04 | Huw Ynyr | Fel Mae Hyn Mae Byw | Huw Ynyr | 2il | £2,000 |
05 | Lily Beau | Y Bobl | Daniel Williams | ||
06 | Angharad Brinn | Dwy Lath ar Wahân | Roger Llywelyn Henderson a Siân Charlton | ||
07 | Steve Williams | Yr Arlywydd | Steve Williams | ||
08 | Morgan Elwy | Bach o Hwne | Morgan Elwy | 1af | £5,000 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cân i Gymru “hyd yn oed yn fwy cyffrous eleni” – er na fydd cynulleidfa fyw yn y theatr , Golwg360, 5 Mawrth 2021. Cyrchwyd ar 8 Mawrth 2021.