Cîfio

dull o gynhyrchu seidr

Dull o facsu seidr yw cîfio. Daw o'r gair Saesneg 'keeve'[1]

Tarddiad

golygu

Mae'r dull cîfio o gynhyrchu seidr yn boblogaidd yn Llydaw a gogledd Ffrainc i gynhyrchu Seidr Bouché. Roedd y dull yn gyffredin yng ngorllewin Lloegr (ac efallai Cymru) ar un adeg ond diflanodd yn sgil cynhyrchu seidr ar raddfa fasnachol yn yr 20g.[2]

Mae'r dull bellach yn cael ei hail-gyflwyno yng Nghymru, Lleogr ac America wrth i gynhyrchwyr chwilio am flas llawnach a mwy naturiol. Gwneir defnydd o'r dull cîfio yng Nghymru gan Seidr y Mynydd o Fynydd-y-garreg ger Cydweli.

Dull traddodiadol o wneud seidr wedi ei felysu'n naturiol yw cîfio. Dim ond afalau seidr a ddefnyddir (afalau ychydig yn sur). Ni ddefnyddir siwgr, dŵr na dim ychwanegiad arall.[3]

Dechreuir y broses gan gasglu afalau o rywogaethau sur-felys yn hwyr yn y tymor ac sy'n naturiol isel mewn maetholion (Saesneg: nutrients) ond yn weddol uchel mewn tannin. Caiff yr afalau eu malu a'u gadael am hyd at 24 awr cyn eu troi'n sudd.

Mae'r broses o cîfio yn creu sbwng neu jel pectin sy'n esgyn a chodi i dop y sudd mewn cerwyn (hen air am gerwyn, vat, yw keeve) trylowy. Mae'r croen pectin naturiol yma'n dal nitrogen a ryddheir gan yr afalau. Canlyniad tynnu ymaith y maetholion (nutrients) hanfodol yma yn y broses o cîfio yw fod eplesiad y burum gwyllt yn stopio'n gynnar, gan adael i siwgr naturiol yr afalau felysu'r seidr.

Bydd pobl sy'n macsu'r seidr yn aml yn poteli'r seidr wrth i'r broses cîfio fynd yn ei flaen yn araf gan olygu fod swigod naturiol bychain yn cael eu cynhyrchu.[3]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu