Diod acoholig a wneir o sudd afalau yw seidr fel rheol, er bod modd gwneud diod debyg yn defnyddio gerllyg hefyd. Gellir defnyddio unrhyw fath ar afal, ond tyfir rhai mathau arbennig yn benodol ar gyfer gynhyrchu seidr. Gall y ddiod gynnwys rhwng 3% ac 8.5% o alcohol.

Escanciador yn Asturias, Sbaen.

Un o brif ardaloedd cynhyrchu seidr y byd yw Cernyw a De-orllewin Lloegr. Ar un adeg, roedd rhannau o ddwyrain Cymru yn enwog am ei seidr, ond daeth y traddodiadd i ben yn ystod yr 20g. O ddechrau'r 21ain ganrif, bu adfywiad, gyda nifer o gynhyrchwyr seidr Cymreig yn datblygu. Mae Llydaw, Normandi, Gwlad y Basg ac Asturias yn Sbaen hefyd yn enwog am ei seidr.

Yn Llydaw, daw'r seidr yn aml mewn cwpan neu fowlen (Llydaweg bolenn) yn hytrach na gwydryn.

Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yn Gymraeg mewn cywydd gan Iolo Goch.[1]

Cîfio golygu

Ceir gwahanol ffyrdd o facsu seidr. Un dull yw'r dull cîfio sy'n defnyddio dim ond sudd yr afal. Mae'r dull yma yn boblogaidd yn Llydaw a Normandi ac yn seiliedig hefyd ar hen ddull yng Lloegr. Daw'r cair 'cîfio' o'r Saesneg, keeving. Dyma'r dull a ddefnyddir gan Seidr y Mynydd i greu eu seidr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cider Making in Wales John Williams-Davies Amgueddfa Werin Cymru 1984

Dolenni allanol golygu