Côr cymysg Cymraeg wedi ei leoli yn Aberystwyth yw Côr ABC.

Côr ABC, Eglwys Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
 
Côr ABC

Sefydlwyd y Côr yn 1995 fel côr ieuenctid Aelwyd Bro Ceredigion. Roedd y cyfarfod cyntaf ar 16 Chwefror 1995 yn Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos, Penparcau gyda'r enw llawn, "Côr Aelwyd Bro Ceredigion".[1] Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn gôr cymysg cymunedol uchelgeisiol sy’n cefnogi bywyd cerddorol Aberystwyth a’r fro.

Mae’r côr wedi comisiynu a pherfformio darnau newydd, gan gynnwys ‘Aberystwyth’[2] gan Hector MacDonald a ‘Gosber’ a ‘Gosod fi megis sêl’ gan Andrew Cusworth. Gallwch glywed recordiad o berfformiad cyntaf ‘Gosber’ ar waelod y dudalen, a gallwch hefyd glywed y côr yn canu ar ffilm lwyddiannus Gideon Koppel, ‘Sleep Furiously’.

Mae’r côr wedi recordio cryno ddisg o emynau’r Pasg ar gyfer cyfres o ddetholiadau a gyhoeddir gan Curiad. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2018.

Trefniant y Côr

golygu

Mae'r Côr yn cwrdd i ymarfer ar nos Iau yng Capel y Morfa, Aberystwyth, Stryd Portland, Aberystwyth.

Arweinydd y Côr

golygu

Arweinydd y côr yn 2024 oedd Louise Amery. Mae Louise yn Ddirprwy Gyfarwyddwraig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[3] Mae hi'n gerddor amryddawn a chanddi radd anrhydedd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor. Bu’n cyfeilio i Gôr ABC ers 2000.

Arweinydd y Côr o 2013 tan 2024 oedd Gwennan Williams, cerddor sy’n frwd dros gerddoriaeth gorawl a cherddoriaeth gymunedol. Mae ganddi radd anrhydedd gyfun mewn cerddoriaeth ac Almaeneg o Brifysgol Birmingham. Enillodd dlws Arweinydd yr Ŵyl yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2018.

Arweinyddion cyntaf y Côr oedd Jamie Medhurst ac yna Angharad Fychan.

Y cyfeilydd

golygu

Yn 2024, cyfeilydd y Côr oedd Rachel Gregory. Cyfeilydd cyntaf y Côr oedd Branwen Evans, a aeth ymlaen i gyfeilio i Gôr Godre'r Garth. Olynwyd hi gan Louise Amery.

Gwobrau

golygu
  • Cystadleuaeth Côr Cymru S4C - cyrraedd rownd derfynol y corau cymysg yn 2007, 2011 a 2017
  • Ennill cystadleuaeth y corau cymysg Gŵyl Fawr Aberteifi yn 2010, 2011 a 2018, gan gipio tlws Côr yr Ŵyl yn 2018.

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.bbc.co.uk/cymru/canolbarth/papurau_bro/yr_angor/newyddion/mawrth05.shtml
  2. https://soundcloud.com/user-673413415
  3. "Ein Tîm". Aber Arts. Cyrchwyd 2024-07-06.

Dolenni allanol

golygu