Côr Godre'r Garth

Côr cymysg yn ardal Gwaelod-y-Garth yw Côr Gwaelod y Garth. Mae'n denu cantorion o ardal Caerdydd a Phontypridd.

Ffurfiwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 gyda'r nod o hybu’r Gymraeg mewn ardal a oedd, yr adeg honno, yn ôl ei gwefan "wrthi’n brysur yn ailddarganfod ei Chymreictod". Roedd llawer o Gymry Cymraeg wedi symud i ardal Pontypridd o bob cwr o Gymru a daeth y rhai cerddorol yn eu plith ynghyd o dan arweiniad deheuig Wil Morus Jones. Athrawon oedd nifer o’r newydd-ddyfodiaid hynny, a bellach mae nifer o aelodau iau’r côr yn gynnyrch ysgolion Cymraeg yr ardal.[1]

Arweinydd cyntaf y Côr oedd Wil Morus Jones. Wedi 28 o wasanaeth, ymddeolodd o'i rôl. Daeth Eilir Owen Griffiths yn arweinydd yn 2003.

Ennill yn yr Eisteddfod Genedlethol

golygu

Mae'r Côr yn cystadlu mewn eisteddfodau gan gynnwys ennill ar ei chynnig gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974.

Ennill categori i gorau dros 45 mewn nifer:

2004 - Casnewydd
2005 - Y Faenol
2006 - Abertawe
2007 - Sir y Fflint
2009 - Y Bala

Stadiwm y Mileniwm

golygu

Mae’r côr wedi ymddangos 4 gwaith yn arwain y canu yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys canu gyda Hayley Westenra a Katherine Jenkins cyn gêm Cymru a Seland Newydd yn 2006.

Teithiau Tramor

golygu

Mae'r Côr wedi teithio a pherfformio dramor gan ymwelad â Fflorens, Iwerddon, Barcelona, Llydaw a Prâg ac amryw o lefydd eraill dramor a ledled Cymru. Mae cysylltiad gyda chôr Liedertafel Moosburg, Bafaria’n ymestyn nôl dros 25 o flynyddoedd pan fu aelodau’r ddau gôr yn aros gyda’i gilydd am y tro cyntaf ac yn cynnal cyngherddau.

Amser Pasg 2006 oedd yr ymweliad diweddaraf, pan aeth Godre’r Garth ar daith lwyddiannus i Moosburg, gyda’n harweinydd presennol, Eilir Owen Griffiths. Daeth y criw o Moosburg nôl i aros yng Nghymru amser Pasg 2008 pan ganwyd Offeren Schubert yn G ar y cyd. Ceri Williams bu cyfeilydd cyntaf y Côr.

Trefniadaeth

golygu
Arweinydd: Stefan Watkins
Cyfeilydd: Branwen Evans (bu'n cyfeilio i Gôr ABC cyn hynny.
Ymarferion: Pob nos Sul am 7:30 p.m., Neuadd y Pentref, Efail Isaf

Recordiadau

golygu
  • Côr Godre'r Garth, Albwm (1976)
  • Ym Mhontyridd mae'n Nghariad, Albwm (1983)
  • Dwfn Liwiau, CD [2]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.corgodrergarth.com/newyddion.php
  2. http://www.corgodrergarth.com/correcordiau.php