Côr meibion Cwmbach

Côr a sefydlwyd yn 1921 yw Côr meibion Cwmbach sydd o ardal Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf, nid nepell o Aberdâr.

Côr meibion Cwmbach
Enghraifft o'r canlynolcôr meibion Edit this on Wikidata

Fe'i ffurfiwyd yn wreiddiol i gystadlu yn yr eisteddfodau lleol ac yn Nhreorci yr enillwyd y gysatadleuaeth cyntaf, yn 1928, ac yna Caerdydd yn 1938 a Glyn Ebwy yn 1958. Mae'r côr hefyd wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Gŵyl Limerick, Iwerddon yn 1996. Y flwyddyn ddilynol, teithiodd y côr i Eisteddfod Ryngwladol Roodeporte, Johannesburg,De Affrica a daethant yn ail yn y gystadleuaeth canu gwerin, allan o 17 o gorau.

Mae repertoir y côr ar y cyfan yn ganu corawl Cymreig, ac yn cynnwys clasuron megis 'Nidaros', 'Castilla' a 'Comrades in Arms'. Cenir hefyd gweithiau crefyddol fel 'Cherubini Requiem Mass'.

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato