Glynebwy
Prif dref ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Glynebwy,[1] weithiau Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale).
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 18,558 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7779°N 3.2117°W |
Cod OS | SO165095 |
Cod post | NP23 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Alun Davies (Llafur Cymru) |
AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
Roedd gan ardal drefol Glynebwy boblogaeth o 33,343 yn ôl amcangyfrif swyddogol cyfrifiad 2020.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Datblygiadau ar safle Gwaith Dur Glynebwy
golyguYn y 2010au datblygwyd safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Mae'r datblygiad yn cynnwys cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.[5]
Gŵyl Garddio Genedlaethol Cymru
golyguFe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lynebwy ym 1992.[6]
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).
Ffeithiau diddorol
golyguEnwogion
golygu- Aneurin Bevan
- Brian Hibbard, actor
- Jeff Banks, dylunydd dillad
- Mark Williams, chwaraewr snwcer
- Victor Spinetti, actor
- Nick Servini, cyflwynydd teledu
Gwybodaeth eraill
golyguYn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[9]
Arferai bod clwb pêl-droed safon uwch Cymru yn y dref. Roedd C.P.D. Glyn Ebwy yn gymharol llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au, ond daeth y clwb i ben yn 1998.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ City Population; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Y Weledigaeth. Adalwyd 20 Ebrill 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-27. Cyrchwyd 2011-04-20.
- ↑ (Saesneg) During the Garden Festival of Wales. Gŵyl Gerddi Cymru. Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.
- ↑ Gweler Hanes Glynebwy ar gwefan y BBC
- ↑ Gweler 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol yng Nglynebwy. Archifwyd 2011-05-18 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) C.P.D. Rygbi Glyn Ebwy Archifwyd 2007-04-05 yn y Peiriant Wayback
- (Cymraeg) Gwefan Y Gweithfeydd Archifwyd 2008-09-05 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abertyleri · Blaenau · Bryn-mawr · Glynebwy · Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg · Brynithel · Cendl · Cwm · Cwmtyleri · Chwe Chloch · Llanhiledd · Nant-y-glo · Rasa · St Illtyd ·
-->Swffryd · Tafarnau-bach · Trefil · Y Twyn · Waun-lwyd