C.P.D. Cwmaman United

clwb pêl-droed yng Nghymru

Mae Cwmamman United yn dîm pêl-droed o Ddyffryn Aman a ffurfiwyd ym 1976. Maent wedi'u lleoli ym mhentref Glanaman sydd yn Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd mae gan Cwmamman United 2 dîm hŷn a saith tîm iau. Mae'r tîm cyntaf yn chwarae yn nghyngrair Cymru South, sef, ail lefel system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Maen nhw'n chwarae eu gemau cartref ym Mharc Grenig.

Cwmamman United
Enw llawnCwmamman United Football Club
Sefydlwyd1976
MaesParc Grenig
Glanaman
CadeiryddLance Williams
RheolwrRyan Stephens
CynghrairCymru South
2018–19Cynghrair Cymru (Y De) , 6ed
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Hanes golygu

Dechreuodd Cwmamman United eu hanes ym 1976 yn Adran Cynghrair Castell-nedd a'r Cylch 3. Yn Nhymor 1981-82 sefydlwyd tîm wrth gefn ar gyfer Adran 4 yr un gynghrair. Daeth llwyddiant pellach i’r tîm 1af wrth iddynt gael eu dyrchafu unwaith eto i Adran 1 yn nhymor 1983–84. Nid oedd rhaid aros yn hir, (tymor 1985-86) pan gafodd Cwmamman ei ddyrchafu i'r Uwch Gynghrair.

Roedd y tymhorau nesaf yn hanes o esgyn a disgyn gyda dirywiad o'r premier yn cael ei ddilyn gan ddyrchafiad yn ôl i'r premier. Yna cafodd Cwmamman eu hisraddio unwaith eto ac ni ddychwelasant i'r Premier tan dymor 1998–99 ac yn y tymor hwnnw gorffennodd yn ail a chwarae mewn gêm ail gyfle yn erbyn Garden Village i fynd i mewn i Gynghrair Cymru a gollon nhw 3–0 ar ôl amser ychwanegol. O'r diwedd, enillodd Cwmamman yr Uwch Adran yn nhymor 2001–02 ac yna mynd i Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2002–03. Gollyngwyd Cwmamman o Gynghrair Cymru yn nhymor 2010–11 ar ôl gorffen yn 4ydd o’r gwaelod a chawsant eu hisraddio oherwydd ailstrwythuro Cynghrair Cymru.[1]

Yn 2017, cyrhaeddodd Cwmamman Adran Un Cynghrair Bêl-droed Cymru am y tro cyntaf ar ôl ennill dyrchafiad.[1]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Cwmamman United". Football Club History Database. Cyrchwyd 12 December 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.