C.P.D. Ffynnon Taf
Mae C.P.D. Ffynnon Taf (Saesneg: Taff's Well AFC) yn glwb pêl-droed a sefydlwyd ym 1946. Mae'r tîm wedi'i leoli ym mhentref Ffynnon Taf i'r gogledd o Gaerdydd. Llysenw'r tîm yw'r The Wellmen ac mae eu cartref wedi ei leoli yn Stadiwm Rhiw'r Ddar yn Ffynnon Taf.
Official badge | |||
Enw llawn | Taff's Well Association Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Wellmen | ||
Sefydlwyd | 1946 | ||
Maes | Rhiw'r Ddar Stadium (3,000) | ||
Cadeirydd | Kevin Francis | ||
Rheolwr | Geza Hajgato / Nathan Cotterrall | ||
Cynghrair | Nodyn:Welsh football updater | ||
Nodyn:Welsh football updater | Nodyn:Welsh football updater | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Hanes
golyguYn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, cychwynnodd Elan Gough a Bill Newman y syniad o uno clybiau lleol i wella’r cyfleusterau a safonau chwarae nag a brofwyd cyn y rhyfel. Croesawyd y syniad hwn yn gynnes a ganed Clwb Pêl-droed Ffynnon Taf. Ffurfiwyd y clwb yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Glan-y-Llyn yn haf 1946. Ffurfiwyd dau dîm ac ymunodd â Chynghrair Caerdydd a'r Cylch. Cae cyntaf y clwb oedd yng nghlwb criced Gwaelod-y-Gareth. Symudodd y tîm yn fuan wedyn i gae a ddarparwyd gan Dai Parry, ffermwr lleol. Yn dilyn y tymor cyntaf fe ymunodd y clwb â Chynghrair Amatur De Cymru. Roedd y clwb yn bencampwyr ddwywaith ac yn ail 4 gwaith rhwng 1949 a 1956 ac ennill Cwpan Corinthian yn 1954.
Anrhydeddau
golyguEnillodd y Clwb Adran Gyntaf Cynghrair Amatur De Cymru ym 1975, 1976 a 1977 yn ogystal â Chwpan Canolradd De Cymru ym 1975 a 1977. Ymunodd y Clwb â Chynghrair Cymru ("Welsh League") yn 1977.
O dan reolaeth Lee Bridgeman, ennillodd y Clwb Gwpan Cynghrair Ceir Nathaniel bedair gwaith mewn pum tymor; 2011–12, 2012–13, 2014-2015 a 2015–16. Yn 2018-19 enillodd tîm Ieuenctid Ffynnon Taf Adran Ieuenctid Cynghrair Cymru.[1] ac yn 2021/22 enillodd Uwch Gynghrair Datblygu'r De JD Cymru a Chystadleuaeth Ail-chwarae Cenedlaethol Uwch Gynghrair Cymru.[2]
Roedd y clwb yn aelodau cychwynnol o Gynghrair newydd JD Cymru South wedi ad-drefnu'r system byramid CBDC, a ddechreuodd yn 2019, gan orffen yn 7fed yn nhymor 2021/22.
Cwpan Cymru
golyguYn nhymor 2021-22 bu i'r clwb gyrraedd rownd go-gyn-derfynnol Cwpan Cymru gan chwarae gartref yn ebryn Pen-y-bont. [3] Bu iddynt golli 3-2.
Tîm Merched
golyguYn 2023 sefydlwyd tîm cyntaf erioed Merched Ffynnon Taf.[4]
Eisteddleoedd
golyguEnwir eisteddle'r clwb 'Don James Stand' ar ôl Don James a ymunodd â'r clwb yn 1960 gyda’r clwb yn ennill tri theitl yn y 1970au.
Enwir Ymunodd Malcolm Frazer â'r clwb yn 1977 a chydnabyddir ei waith caled dros y clwb gyda dadorchuddio eisteddle yn ei enw yn 2017.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol CPD Ffynnon Taf
- @TaffsWellFC cyfrif Twitter y Clwb
- Sianel Youtube y Clwb
- @TaffsWellFootball Club Tudalen Facebook y Clwb
- @TaffsWellFC Instagram y Clwb
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Club History". Taffs Well FC.
- ↑ Francis, Kevin (March 27, 2022). "TAFFS WELL DEVELOPMENT TEAM WIN THE LEAGUE". Taffs Well FC.
- ↑ "Ffynnon Taf: "One of the biggest games for the club" #CwpanCymruJD". Sianel Youtube sgorio. 12 Chwefror 2022.
- ↑ "Introducing Taffs Well Women FC". Twitter TaffsWellFC. August 2024.
Cyfesurynnau: 51°32′49.4″N 3°15′55.8″W / 51.547056°N 3.265500°W