C.P.D. Pen-y-bont

clwb pêl-droed

Mae Clwb Pêl-droed Pen-y-Bont a sillefir hefyd yn C.P.D. Penybont (Saesneg: Penybont F.C.) yn glwb pêl-droed a sefydlwyd yn 2013 yn dilyn uno Bridgend Town FC a Bryntirion Athletic FC. Maent yn chwarae yn Nghyngrair Cymru (Y De) sef yr adran ranbarthol uchaf yn ne Cymru ac un adran islaw Uwch Gynghrair Cymru yn system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Lleolir y clwb yn nhref Penybont-ar-Ogwr. Mae'n arddel yr enw uniaith Gymraeg hyd yn oed wrth siarad a defnyddio Saesneg.

C.P.C. Pen-y-Bont FC
Enw llawnClwb Pêl-droed Pen-y-Bont Football Club
LlysenwauThe Bont
Sefydlwyd2013
MaesStadiwm KYMCO, Penybont-ar-Ogwr
(sy'n dal: 1,200 (85 sedd))
CadeiryddEmlyn Phillips
RheolwrRhys Griffiths
CynghrairPremier Liga
2022/233.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref

Stadiwm golygu

 
Maes Parc Bryntirion

Mae Pen-y-Bont yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm SDM Glass (gelwir yn flaenorl yn Stadiwm Kymco a chyn hynny, Parc Bryntirion).

Mae'r clwb wedi gosod porfa artiffisial 3ydd cenhedlaeth (3G) ym Mharc Bryntirion ac Academi Bêl-droed Pen-y-bont ar Ogwr ym Mhencoed. Mae hyn yn galluogi'r clwb i gynnal gemau ansawdd uchel mewn tywydd gwael. Arianwyd y datblygiad yma drwy werthu hen dir Ffordd Coychurch, ym Mhen-y-bont i archfarchnad ASDA.[1]

Tymor agoriadol 2013-14 golygu

Dechreuodd y Clwb ei thymor gyntaf gan chwarae'r gemau cychwynnol oddi cartref gan nad oedd y cae 3G yn barod tan fis Ionawr 2014. Y gêm gynghrair gyntaf ar y maes newydd oedd yn erbyn Ton Pentre, y canlyniad oedd colli 1-0.[2]

Agorwyd y cae newydd yn swyddogol gan gyn-reolwr Dinas Caerdydd Malky Mackay ar 7 Ionawr 2014 gyda gêm gyfeillgar yn erbyn tîm 'XI Datblygu' Caerdydd ar yr un prynhawn. Enillodd tîm datblygu Caerdydd y gêm 5-0.[3][4]

Rheolwr cyntaf y clwb unedig newydd oedd Francis Ford a bu'n reolwr Bryntirion Athletic cyn uno'r clwb gyda Phont Penybont ar Ogwr i ffurfio CPD Pen-y-Bont.

Daeth tymor cyntaf y clwb i ben gyda'r clwb newydd yn gorffen mewn trydydd safle parchus yn Adran Un Cynghrair Cymru (Y De).[5]

Tymor 2014-15 golygu

Ar 18 Ionawr 2015, cyhoeddodd y clwb ei fod wedi cyrraedd cytundeb nawdd gyda KYMCO Healthcare UK ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn cynnwys hawliau enwi stadiwm. Ail-enwyd Parc Bryntirion yn Stadiwm KYMCO fel rhan o'r cytundeb.[6]

Cwblhaodd y clwb y tymor yn y 5ed safle yn Adran Un Cynghrair Cymru (Y De).[7]

Tymor 2015-16 golygu

Ar 12 Medi 2015 cyhoeddodd y clwb ei fod wedi gwneud cais am Drwydded Domestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru. Nododd hyn fod y clwb wedi ymrwymo i wella'r cyfleusterau yn Stadiwm Kymco er mwyn gwneud y clwb yn gymwys ar gyfer dyrchafiad.

Ym mis Mai 2016 ymddiswyddodd Francis Ford o'i swydd fel rheolwr i gael ei ddisodli gan gyn-bêl-droediwr Plymouth Argyle, C.P.D. Casnewydd ac Uwch Gynghrair Cymru, Rhys Griffiths. Ar 11 Mehefin, penodwyd cyn-chwaraewr Dinas Caerdydd a Chasnewydd, Martyn Giles, fel rheolwr cynorthwyol.

Anrhydeddau'r Clwb golygu

  • Fel Pen-y-bont ar Ogwr
  • Fel Bryntirion Athletic
    • Pencampwyr Rhan Un Cynghrair Pêl-droed Cymru 2011

Cyfeiriadau golygu

  1. [http: // www. walesonline.co.uk/sport/football/amateur-footbal/bridgend-town-bryntirion-athletic-merge-4035685]
  2. [1]
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-02. Cyrchwyd 2018-11-21.
  4. [2]
  5. [3][dolen marw] Nodyn:Link dead
  6. "KYMCO STADIUM". penybontfc.co.uk. Pen Y Bont FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-23. Cyrchwyd 23 Chwefror 2015.
  7. "2014/15 Season Table". Welsh League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 16 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)Nodyn:Full citation needed

Dolenni allanol golygu