C.P.D. Glan Conwy

Mae Clwb Pêl Droed Glan Conwy yn dîm pêl droed Cymreig sy'n chware yng Nghynghrair Undebol y Gogledd [2]. Mae'r clwb yn aelod o Gymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru.

Glan Conwy
Enw llawnClwb Pêl Droed Glan Conwy Football Club
Sefydlwyd1979
MaesCae Ffwt
Llansanffraid Glan Conwy
(sy'n dal: 220)
CadeiryddCymruKeith Edwards
RheolwrCymru Howard Vaughan[1]
CynghrairCynghrair Undebol y Gogledd Adran 1
Green and white hooped jersey, green shorts and socks
Lliwiau Cartref

Hanes golygu

Ymunodd tîm o Lansanffraid Glan Conwy â Chynghrair Dyffryn Conwy, yn un o'r saith clwb i sefydlu'r cynghrair ym 1922, yr aelodau eraill oedd Dolgarrog, Celtiaid Penmaen, Hen Golwyn a thimau wrth gefn Cyffordd Llandudno, Llanrwst a Phenmaenmawr.

 
Y Jolly Boys tua 1938

Llys enw'r tîm oedd y Jolly Boys, enw sy'n dal i gael i dadogi ar y tîm cyfredol gan rhai o hynafgwyr y pentref.

Roedd y tîm yn chware ar Faes y Gala gan chware ar y maes ac yn y gynghrair hyd doriad yr Ail Ryfel Byd yn ystod tymor 1938/39. Ni fu sôn am ail sefydlu'r tîm wedi darfod y rhyfel, yn bennaf gan fod y maes chware yn cael ei ddefnyddio i dyfu cynudau i ddarparu bwyd.

Ym 1979 ail sefydlwyd Clwb Pêl droed ym mhentref Llansanffraid Glan Conwy gan ail ymuno â Chynghrair Dyffryn Conwy ym 1980, ond heb faes cartref gan chware ar gaeau timau eraill.

Parhaodd y tîm yng Nghynghrair Dyffryn Conwy am ddeunaw mlynedd, cyn cael eu dyrchafu i Gynghrair Gwynedd ym 1998. Ar ddiwedd eu tymor cyntaf yng Nghynghrair Gwynedd daeth y clwb i frig y tabl a chawsant eu dyrchafu i Gynghrair Undebol y Gogledd lle maent yn parhau hyd heddiw (tymor 2019/20).

Maes Chware golygu

Agorwyd maes chware cartref i'r tîm ym 1998, sef Cae Ffwt, sydd ar lannau'r Afon Conwy ar gyrion pentref Llansanffraid Glan Conwy.

Yn 2018 agorwyd tafarn cymunedol, Y Clwb, ger y maes chware. Mae'r dafarn yn Gwmni Budd Cymunedol sydd yn defnyddio ei elw i gefnogi'r clwb pêl-droed, Cymdeithas Chwaraeon Glan Conwy a gweithgareddau cymunedol eraill.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.pitchero.com/clubs/glanconwy/teams/26242/coach/gary-john-jones-1314373
  2. "Division One Clubs - Glan Conwy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-03. Cyrchwyd 2017-01-10.
  3. "Glan Conwy community bar already benefits community organisations". North Wales Pioneer. Cyrchwyd 2019-10-10.