Cynghrair Undebol y Gogledd

Cynghrair bêl-droed yng ngogledd Cymru ydy Cynghrair Undebol y Gogledd sydd, am resymau nawdd, yn cael ei hadnabod fel Cynghrair Undebol Lock Stock (Saesneg: Lock Stock Welsh Alliance). Mae dwy adran i'r gynghrair gyda'r brif adran yn gyfystur i drydedd rheng Pyramid pêl-droed Cymru ac yn bwydo'r Gynghrair Undebol tra bod yr ail adran yn gyfystur â'r bedwaredd rheng o'r Pyramid pêl-droed yng Nghymru.

Caiff yr ail adran ei bwydo gan Gynghreiriau Gwynedd a Dyffryn Clwyd a Chonwy.

Daeth y Gynghrair i fodolaeth yn dilyn diddymiad Cynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1984[1]. Y bwriad gwreiddiol oedd i greu cynghrair ar gyfer prif glybiau gogledd a chanolbarth Cymru ac adlewyrchu'r hyn oedd yn digwydd gyda Chynghrair Cymru (Y De) ond dim ond clybiau o Gymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru wnaeth cais i ymuno â'r gynghrair newydd[1].

Conwy oedd pencampwyr cyntaf y gynghrair newydd[2].

Cynghrair Undebol y Gogledd oedd prif gynghrair i glybiau Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru hyd nes sefydlu'r Gynghrair Undebol ym 1990 ac yna Uwch Gynghrair Cymru ym 1992.

Pencampwyr

golygu
Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr
1984-85 Conwy 1999-2000 Helygain 2015-16 Bae Trearddur
1985-86 Conwy 2000-01 Llanfairpwll 2016-17 Glantraeth
1986-87 Bethesda 2001-02 Amlwch 2017-18 Conwy
1987-88 Llanfairpwll 2002-03 Glantraeth
1988-89 Y Fflint 2003-04 Ail dîm Y Rhyl
1989-90 Porthmadog 2004-05 Bodedern
1990-91 Llangefni 2005-06 Dinbych
1991-92 Llangefni 2006-07 Bethesda
1992-93 Bae Cemaes 2007-08 Bethesda
1993-94 Llangefni 2009-10 Rhydymwyn
1994-95 Rhydymwyn 2010-11 Conwy
1995-96 Dinbych 2011-12 Hotspur Caergybi
1996-97 Glantraeth 2012-13 Caernarfon
1997-98 Hotspur Caergybi 2013-14 Dinbych
1998-99 Llangefni 2014-15 Treffynnon

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Welsh Alliance League History". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen farw]
  2. "Welsh Alliance League 1984-85". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolen allanol

golygu