C.P.D. Merched Pwllheli
Mae Clwb Pêl-droed Merched Pwllheli neu C.P.D.M. Pwllheli (Saesneg: Pwllheli Ladies F.C.) yn rhan o strwythur C.P.D. Pwllheli. Pwllheli yw prif dref Penrhyn Llŷn. Maent yn chwarae yn ail haen pêl-droed merched Cymru. Ym mis Mehefin cyhoeddoedd cyfrif Twitter @PwllheliLFC bod nhw'n cau'r cyfrif twitter benodol gan bod "Pwllheli fc bellach wedi dod yn un clwb rydyn ni wedi penderfynu cau ein tudalen twitter a instagram i lawr a byddwn ni nawr o dan @cpdpwllheli.[2] Hashnod y clwb yw #ClwbNiClwbChi.[3]
Enw llawn |
Clwb Pêl-droed Merched Pwllheli C.P.D.M. Pwllheli | ||
---|---|---|---|
Maes | Y Rec, Canolfan Hamdden[1] | ||
Cadeirydd | |||
Rheolwr | |||
Cynghrair | Adran Gogledd Genero | ||
|
Cystadleuaeth
golyguYn nhymor 2021-22 roedd y tîm yn chwarae yn Adran y Gogledd ("Adran North"), sef ail haen strwythur pêl-droed merched Cymru, un o dan Adran Premier, sef y brif adran a'r unig adran genedlaethol.[4] Yr adran yma yw'r brif adran i ogledd Cymru, gyda'r tîm buddugol yn gallu estyn i'r Adran Premier.
Cit a Maes
golyguMae cit y merched yn dilyn dyluniad sylfaenol cit tîm y synion, sef, crysau gwynion, trowsus duon a sannau duon.[5]
Ei maes cartref yw Y Rec yng nghanol tref Pwllheli.[6]
Ffilmio
golyguAr 3 Hydref 2021 ffilmiwyd gêm C.P.D.M. Pwllheli yn erbyn C.P.D.Merched Llandudno yn y cymal cyntaf o Gwpan Pêl-droed Merched Cymru gan raglen Sgorio ar S4C. Pwllheli a enillodd 2-1 gan fynd trwyddo i'r cymal nesa.[7] Dyma'r tro cyntaf i'r clwb gael ei ffilmio a'i darlledu. Sgoriwyd goliau Pwllheli gan Lois Thomas a Katie Bowe.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.pitchero.com/clubs/cpdpwllhelifc/contact
- ↑ https://twitter.com/Pwllheli_lfc/status/1407443524006592513
- ↑ https://twitter.com/cpdpwllheli/status/1442170711435526148
- ↑ https://www.adranleagues.cymru/adran-north/
- ↑ https://twitter.com/cpdpwllheli/status/1444711179063005187
- ↑ https://www.pitchero.com/clubs/cpdpwllhelifc/contact
- ↑ https://twitter.com/sgorio/status/1444710804251676675