C.P.D. Merched Cyncoed

clwb pel-droed merched Cyncoed, ymunodd yn 2021 gyda C.P.D. Merched Tref Pontypridd

Roedd Clwb Pêl-droed Merched Cyncoed (Cyncoed Ladies F.C.) yn glwb pêl-droed yn ne Cymru. Er mai maestref o Gaerdydd yw Cyncoed, bu't tîm yn chwarae eu gemau cartref mewn sawl man yn y ddinas a thu hwnt, gan gynnwys Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, Trefforest, Pontypridd. Buont yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru (y Adran Premier), y lefel uchaf o bêl-droed yng Nghymru.[2] Crys coch, siorts du a sanau coch oedd lliwiau eu cit.[3]

Cyncoed Ladies F.C.
Enw llawnCyncoed Ladies Football Club (C.P.D. Merched Cyncoed)
LlysenwauMighty Oaks
MaesMaesydd Chwaraeon Prifysgol De Cymru, Trefforest
CynghrairUwch Gynghrair Merched Cymru
2020–21
(eu tymor olaf)
6ed [1]
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Hanes golygu

Ffurfiwyd y tîm yn 2007, gan chwarae'n wreiddiol o dan yr enw 'Cardiff Draconians' cyn dod yn Glwb Pêl-droed Merched Cyncoed yn 2008.[4] Daeth eu rhediad gorau erioed yng Nghwpan Merched yn nhymor 2017-18 pan gyrhaeddon nhw’r rownd gynderfynol cyn colli o drwch blewyn i Ddinas Caerdydd.[5] Ar y ffordd fe wnaethant drechu Llangyfelach 23-0 yn yr ail rownd.[6]

Uno gyda C.P.D. Tref Pontypridd golygu

Ar gyfer tymor 2021-22 ac yn sgil newidiadau i strwythur cystadlaethau pêl-droed merched Cymru gan y Gymdeithas Bêl-droed, cafwyd cais gan glwb merched Cyncoed i uno gyda C.P.D. Merched Tref Pontypridd sy'n rhan bellach o C.P.D. Tref Pontypridd. Roedd hyn yn rannol gan bod Cyncoed eisoes yn chwarae ar safle Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd ac er mwyn gwireddu ysfa i dyfu a chryfhau'r ddarpariaeth bêl-droed i ferched o fewn Pontypridd a'r ardal gan glwb sylfaenol Pontypridd.[7] Erbyn 2021-22 felly unwyd C.P.D. Merched Pontypridd, C.P.D. Tref Pontypridd (dynion) a'r hen C.P.D. Merched Cyncoed i greu un uned. Yn ôl Fern Burrage-Male, Cyfarwyddwr Pêl-droed Merched Cyncoed, “Am nifer o flynyddoedd mae Cyncoed Ladies wedi bod yn dîm Merched hŷn hunangynhaliol llwyddiannus. Rydym wedi bod ag awydd i dyfu ac wedi gwneud cynnydd gyda'n rhaglen dan 19 a chwaer glwb. Pan adolygwyd ein camau nesaf, gwnaethom gydnabod ein bod yn chwarae ym Mhontypridd allan o USW ac nad oes gennym gysylltiadau uniongyrchol ag ardal Cyncoed o gwbl.

“Roeddem hefyd yn gwybod o safbwynt brandio/marchnata, gallai fod rhai cysylltiadau â Champws Cyncoed a Chaerdydd Met sy'n chwarae eu gemau cartref yno. Fe wnaethon ni archwilio ein cyfleoedd a'r dirwedd yn ne Cymru a Clwb Pêl-droed Tref Pontypridd oedd y dewis perffaith. Yn hynny o beth, rydym wedi gwneud cais i uno Cyncoed Ladies; Merched Pontypridd (yn SWWGL ar hyn o bryd) ac AFC Tref Pontypridd.”[8]

Gorffennodd Cyncoed eu tymor olaf fel tîm ar wahan yn 2020-21 yn 6ed safle Uwch Gynghrair Orchard Cymru.[9]

Derbyniwyd y C.P.D. Tref Pontypridd ar ei newydd wedd i chwarae yn y Genero Adran Preimere newydd yn 2021-22.[10]

Maes Cartref golygu

Bu C.P.D. Merched Cyncoed yn chwarae ar faes Prifysgol De Cymru, Trefforest.

Cofnod gorau golygu

Chwaraeodd Cyncoed eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2015-16, gan orffen yn yr 8fed safle a chyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Merched Cymru.[11]

Tymor 2017-18 oedd un mwyaf llwyddiannus Cyncoed, gan orffen yn 4ydd yn yr Uwch Gynghrair ac ennill Cwpan Uwch Gynghrair Cymru gan drechu enillwyr y gynghrair, Met Caerdydd, o 1-0 mewn amser ychwanegol.[12]

Anrhydeddau golygu

  • Cwpan Uwch Gynghrair Cymru
  • Pencampwyr: 2017-18 [12]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Summary - Welsh Premier Women's League - Wales - Results, fixtures, tables and news - Women Soccerway". int.women.soccerway.com. Cyrchwyd 23 Medi 2022.
  2. "League table on the league website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-13. Cyrchwyd 2021-08-16.
  3. "Club information on the league website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-13. Cyrchwyd 2021-08-16.
  4. Club history on the club website
  5. Match report on the Welsh FA website
  6. shekicks.net round up of the tournament to the semi-finals
  7. https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
  8. https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
  9. https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
  10. https://www.adranleagues.cymru/
  11. "Information - Cyncoed Ladies FC". www.pitchero.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 July 2019.
  12. 12.0 12.1 Frith, Wilf (26 March 2018). "Cyncoed win Welsh Premier League Cup". She Kicks Women's Football Magazine. Cyrchwyd 23 July 2019.

Dolenni allanol golygu