C.P.D. Pontypridd Unedig
Mae Clwb pêl-droed Pontypridd Unedig (arferid arddel yr enw C.P.D. Tref Pontypridd hyd nes tymor 2022-23[1]) yn glwb pêl-droed o Bontypridd, Rhondda Cynon Taf. Gan nad oedd gan y clwb gartref yn y dref am gyfnod chwaraewyd eu gemau cartref yng Nghaerdydd ers 2018, maent bellach yn chwarae ar faes ymarfer sy'n eiddo i Prifysgol De Cymru. Mae'r Brifysgol yn "bartneriaid strategol" i'r Clwb.[2]
Enw llawn | Pontypridd United Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Dragons | ||
Sefydlwyd | 1992 | as Pontypridd Town AFC||
Maes | Parc Chwaraeon PDC, Trefforest (sy'n dal: 1,000) | ||
Cadeirydd | Paul Ragan | ||
Rheolwr | Gavin Allen | ||
Cynghrair | Nodyn:Welsh football updater | ||
Nodyn:Welsh football updater | Nodyn:Welsh football updater | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Hanes
golyguDechreuoedd y clwb yn 1992 ar ôl uno gyda thîm arall yn yr ardal C.P.D. Ynysybwl. Yn nhymor 2023-24 roedd y clwb yn chwarae yn Cymru South (ail haen pyramid Cymru). Mae wedi chwarae yn yr hen Adran Un Cynghrair Cymru (Y De) a hefyd, yn 2022-23 yn Uwch Gynghrair Cymru.[3]
Tîm Merched
golyguAr gyfer tymor 2021-22 unwyd C.P.D. Merched Tref Pontypridd gyda C.P.D. Merched Cyncoed i greu un tîm cryfach ar gyfer cystadlu yn yr Uwch Gynghrair a oedd wedi ei hailstrwythuro a newid brandio i fod yn Adran Premier.[4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "About". Gwefan Pontypridd United. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
- ↑ "About". Gwefan Pontypridd United. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
- ↑ "Pontyrpridd United". Gwefan swyddogol y Clwb. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
- ↑ https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
- ↑ "'Ailstrwythuro sylweddol' i bêl-droed merched yng Nghymru". BBC Cymru Fyw. 16 Awst 2021.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- @PontyUnitedM Tudalen Facebook y Clwb