Cadair y Coroni
Mae Cadair y Coroni, a elwir yn hanesyddol yn Gadair Sant Edward neu Gadair y Brenin Edward, yn gadair bren hynafol y mae brenhinoedd Prydain yn eistedd arno pan gânt eu coroni. Nid yw'n orsedd go iawn.[1] Fe'i comisiynwyd ym 1296 gan y Brenin Edward I er mwyn cynnwys carreg goroni'r Alban, a elwir yn Garreg Scone, cafodd ei gipio o'r Albanwyr gan Edward. Enwyd y gadair ar ôl Edward y Cyffeswr, ac yn flaenorol fe'i cadwyd yn ei gysegrfa yn Abaty Westminster.
Hanes
golyguCerfiwyd y gadair mewn arddull Gothig gyda chefn uchel, o dderw rhywbryd rhwng haf 1297 a Mawrth 1300, gan y saer Walter o Durham.[2] I ddechrau, gorchmynnodd y brenin i'r gadair gael ei gwneud o efydd, ond fe newidiodd ei feddwl a phenderfynu y dylid ei gwneud o bren.[3] Y gadair yw'r darn hynaf o ddodrefn Saesneg a wnaed gan arlunydd hysbys.[4] Ers y 14eg ganrif, mae holl frenhinoedd Lloegr a Phrydain a chafodd eu coroni wedi eistedd yn y gadair hon ar adeg y coroni,[5] ac eithrio'r Frenhines Mari II, a goronwyd ar gopi o'r gadair (oherwydd coronwyd ei gŵr a'i chyd-frenin ar y gadair ar yr un pryd).[6] Ni choronwyd Brenin Edward V na Brenin Edward VIII a ddaeth i'r orsedd ym 1483 ac ym 1936 yn ôl eu trefn. Arferai brenhinoedd eistedd ar Garreg Scone ei hun nes ychwanegu platfform pren yn yr 17eg ganrif.
Ychwanegwyd llewod goreurog yn yr 16eg ganrif i goesau'r gadair; disodlwyd pob un ohonynt yn 1727. Derbyniodd un o'r pedwar llew ben newydd ar gyfer coroni Siôr IV ym 1821. Yn wreiddiol, cafodd y gadair ei hun ei goreuro, ei phaentio a'i mewnosod â brithwaith gwydr.[7] Roedd delwedd o frenin, efallai Edward y Cyffeswr neu Edward I, gyda'i draed yn gorffwys ar lew, ar gefn y gadair, ond mae nawr ar goll.[8]
Yn y 18fed ganrif, gallai twristiaid eistedd ar y gadair am daliad bach i un o ofalwyr yr eglwys.[9] Gwnaeth twristiaid cynnar a chôr-fechgyn cerfio'u blaenlythrennau a graffiti arall i mewn i'r gadair. Hefyd mae'r pyst cornel wedi'u difrodi'n ddifrifol gan bobl yn ceisio cymryd rhannau ohono fel cofroddion.[10] Disgrifiodd Syr Gilbert Scott, y pensaer adfywiad Gothig, y gadair fel "darn addurniadol gwych, ond yn anffodus wedi ei difrodi".[3]
Am 5:40 yh ar 11 Mehefin 1914, roedd y gadair yn darged ymosodiad bom y credir iddo gael ei drefnu gan y Suffragetiaid. O ganlyniad i'r ffrwydrad torrodd cornel o'r gadair i ffwrdd. Roedd y ffrwydrad yn ddigon cryf i ysgwyd waliau'r abaty ac yn ddigon uchel i gael ei glywed o'r tu mewn i Dŷ'r Senedd, ond ni anafwyd unrhyw un o'r 70 o bobl yn yr abaty ar y pryd. Cafodd y Gadair y Coroni ei adfer yn ffyddlon.[3]
Dros yr wyth canrif o'i fodolaeth dim ond dwywaith y cafodd y gadair ei symud o Abaty Westminster. Y tro cyntaf oedd ar gyfer seremoni yn Neuadd San Steffan pan gafodd Oliver Cromwell ei sefydlu fel Arglwydd Amddiffynnwr Gwerinlywodraeth Lloegr. Yr ail dro oedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gafodd ei symud i Eglwys Gadeiriol Caerloyw ac aros yna trwy gydol y rhyfel.[8] Ar Ddydd Nadolig 1950, torrodd cenedlaetholwyr Albanaidd i mewn i'r abaty a chymryd y Garreg Scone. Cafodd ei adfer mewn pryd ar gyfer coroni’r Frenhines Elisabeth II ym 1953. Ym 1996 cafodd y garreg ei dychweled i'r Alban, lle mae nawr yn cael ei chadw yng Nghastell Caeredin ar yr amod ei bod yn cael ei dychwelyd i Loegr i'w defnyddio mewn seremonïau coroni.[4]
Cadeiriau eraill a ddefnyddir yn y coroni
golyguDefnyddir cadeiriau eraill hefyd trwy gydol seremoni'r coroni. Rhoddir Cadeiriau Ystad ar gyfer y sofran a'r frenhines neu dywysgog cydweddog ar ochr ddeheuol y cysegr, a defnyddir y rhain yn ystod rhan gyntaf y litwrgi, cyn coroni'r sofran â choron Sant Edward. Yna, am ran o'r gwasanaeth a elwir y gorseddiad (enthronement), rhoddir y sofran nid yng Nghadair y Coroni, ond yn yr orsedd. Ar adegau pan fydd gwraig brenin, brenhines gydweddog, yn cael ei choroni, darperir gorsedd debyg iddi fel y gellir eistedd wrth ymyl y brenin ond ar lefel is.[11]
Yn wahanol i Gadair y Coroni, mae'r cadeiriau a'r gorseddau eraill hyn yn tueddu i gael eu gwneud yn newydd ar gyfer pob coroni. Wedi hynny, fe'u gosodwyd yn aml yn Ystafelloedd Orsedd palasau brenhinol. Mae'r Cadeiriau Ystad o'r goroni 1953 yn Ystafell Orsedd Palas Buckingham,[12] ynghyd â rhai Siôr VI a'i wraig y Frenhines Elizabeth.[13] Mae'r orsedd o 1953 yn Ystafell Orsedd Garter yng Nghastell Windsor;[14] mae gorseddau'r Brenin Edward VII a'r Frenhines Alexandra yn yr Ystafell Ddawns ym Mhalas Buckingham.[15] Mae rhai Siôr V a'r Frenhines Mary yn Ystafell yr Orsedd ym Mhalas Holyroodhouse yng Nghaeredin.[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Encyclopædia Britannica. 22. Encyclopædia Britannica Company. 1929. t. 163.
- ↑ Warwick Rodwell (2013). The Coronation Chair and Stone of Destiny: History, Archaeology and Conservation. Oxbow Books. t. 305. ISBN 978-1-78297-153-5.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Bomb explosion in Westminster Abbey; Coronation Chair damaged; Suffragette outrage". The Daily Telegraph. 12 June 1914. t. 11.
- ↑ 4.0 4.1 James Yorke (17 August 2013). "Review of The Coronation Chair by Warwick Rodwell". The Spectator. Cyrchwyd 11 February 2016.
- ↑ Rodwell, p. 324.
- ↑ Rodwell, p. 161.
- ↑ Sir George Younghusband; Cyril Davenport (1919). The Crown Jewels of England. Cassell & Co. tt. 59–61. ASIN B00086FM86.
- ↑ 8.0 8.1 "The Coronation Chair". Westminster Abbey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-03. Cyrchwyd 11 February 2016.
- ↑ Rodwell, p. 328.
- ↑ Rodwell, p. 184–185.
- ↑ L.G.W. Legg (1901). English Coronation Records. A. Constable. t. 276.
- ↑ "White, Allom & Company - Pair of Chairs of Estate". www.rct.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-29.
- ↑ "White, Allom & Company - Pair of throne chairs". www.rct.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-29.
- ↑ "English - Throne Chair". www.rct.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-29.
- ↑ Sam Wallace (6 July 2000). "Buckingham Palace visitors can step into ballroom". The Telegraph. Cyrchwyd 11 February 2016.
- ↑ A. J. Youngson (2001). The Companion Guide to Edinburgh and the Borders. Companion Guides. t. 67. ISBN 978-1-900639-38-5.