Benlli Gawr
Cymeriad chwedlonol neu led hanesyddol y ceir sawl cyfeiriad ato yng ngwaith y Gogynfeirdd oedd Benlli Gawr.
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|
Ceir hanes Benlli gan Nennius yn yr Historia Brittonum. Yno dywedir ei fod yn frenin gormesol ar Bowys yn yr Oesoedd Tywyll. Am iddo ymddwyn yn elyniaethus tuag at Sant Garmon, cafodd ei losgi gan dân o'r nef yn ei dŵr (ceir hanes cyffelyb am Gwrtheyrn ac mae'n debyg i'r ddau hanes gael eu drysu).
Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr (12g) at Fenlli Gawr yn ei gerdd enwog i osgordd Madog ap Maredudd o Bowys.
Gan y cyfeirir ato fel cawr mae'n bosibl fod cof am dywysog cynnar wedi cael ei impio ar draddodiadau cynharach o fyd mytholeg.
Ceir bryngaer o Oes yr Haearn ar fryn 511 medr ym Mryniau Clwyd a elwir yn Foel Fenlli, ac mae'n bosibl iddi gael ei henwi ar ôl Benlli Gawr. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd.
Cyfeiriadau
golygu- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (arg. newydd 1991)