Gwenfyl

santes Gymreig o'r 6ed ganrif

Santes o decrau y 6g oedd Gwenfyl (neu weithiau Gwenful, Gwenfael neu Gwennog).[1]

Gwenfyl
Ganwyd530 Edit this on Wikidata
Defynnog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Tachwedd Edit this on Wikidata
PriodCadell Ddyrnllwg Edit this on Wikidata

Bu yn wyres neu yn gor-wyres i Brychan, a rhoddodd ei enw i Brycheiniog[2] (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru)

Bu Gwenfyl yn trigo yn ardal Llandewi Brefi a bu 'Capel Gwenfyl' yn Llangeitho.. Mae'r adeilad wedi ei dynnu i lawr, er 17g, er y ceir cofnodion o lawer o wasanaethau priodas cyn hynny, ac roedd yno fynwent hefyd. Cysylltir hi â Llanywenfel ym Mrycheiniog, a Llanillteyrn. Ar fferm "Alun" ger Llanarmon-yn-Iâl ceir "Ffynnon Wenfyl"; saif tua hanner milltir o'r eglwys hynafol.

Hen Gapel, Blaenpennal
Hen Capel Lligwy

Credwyd yn Lanwenog fod modd gwella plant gyda chefnau gwan trwy trochi hwy yn nŵr ei ffynnon cyn toriad y wawr. Mae'n bosibl mai'r un person oedd 'Gwynfyl' ond ni dylid cymysgu hi gyda Gwenfaen, santes o'r gogledd.

Yn ôl Llawysgrifau Cwrtmawr 44, ei dydd ei ŵyl yw'r 1 Tachwedd, ac mae'n rhannu'r diwrnod gyda'i chwaer Callwen.[3][4] Mae llawysgrif diweddarach a sgwennwyd yn 1508, fodd bynnag, yn nodi 6 Gorffennaf.

Gweler hefyd golygu

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau golygu

  1. Bywyd y Seintiau (The Lives of the British Saints); http://www.archive.org/; The Internmet Archive.
  2. T.T. Jones, The daughters of Brychan, Brycheiniog XVII (1977)
  3. Smith & Wace 1880, t. 828.
  4. Rees 1836, t. 153.