Cadwaladr

brenin Gwynedd a sant
Gweler hefyd Cadwaladr (gwahaniaethu).

Roedd Cadwaladr ap Cadwallon (c. 633682, teyrnasodd o c. 655) (Lladin: Catuvelladurus), a adnabyddir fel Cadwaladr Fendigaid, yn frenin Gwynedd.

Cadwaladr
Ganwyd633 Edit this on Wikidata
Bu farw682 Edit this on Wikidata
o y pla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Edit this on Wikidata
TadCadwallon ap Cadfan Edit this on Wikidata
PlantIdwal Iwrch, Hywel ap Cadwaladr Edit this on Wikidata
Llun o Gadwaladr allan o Historia Regum Britanniae, Sieffre o Fynwy; 15g.
Sant Cadwaladr yn mynd i'r frwydr, dan faner y Ddraig Goch. Ffenestr liw yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Hanes golygu

Roedd Cadwaladr yn blentyn pan laddwyd ei dad, Cadwallon ap Cadfan, mewn brwydr yn erbyn Oswald o Northumbria. Cipiwyd teyrnas Gwynedd gan Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw, a bu raid i Gadwaladr ffoi. Credir iddo fyw yn Iwerddon, Llydaw neu un o'r teyrnasoedd Brythonig eraill. Llwyddodd Cadwallon i adennill teyrnas ei dad, ond nid oes gwybodaeth am sut y gwnaeth hyn. Erbyn 658 yr oedd yn ddigon grymus i ymosod ar y Saeson yng Ngwlad yr Haf, ond heb lwyddiant.

Wedi hyn, nid yw'n ymddangos i Gadwaladr arwain byddinoedd tu allan i Wynedd. Roedd enw iddo am fod yn frenin duwiol dros ben, a chafodd yr enw "Cadwaladr Fendigaid". Sefydlodd nifer o eglwysi yng Ngwynedd, a chredir mai ef yw'r "Cadwaladr" sy'n cael ei goffau yn enw eglwys Llangadwaladr ar Ynys Môn, lle gellir gweld carreg fedd ei daid, Cadfan ap Iago.

Yn ôl yr Annales Cambriae, bu farw o'r pla yn 682. Mae rhai ffynonellau'n awgrymu iddo farw mewn pla cynharach yn 663/664, ond ymddengys hyn yn llai tebygol.

Traddodiadau amdano golygu

Mae traddodiad a geir yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain yn rhestru 'Tair Gwyth Balfawd Ynys Prydain' (Tri thrawiad niweidiol...'), a'r drydedd yw'r un a roddodd Golyddan Fardd i Gadwaladr Fendigaid. Does dim cyfeiriad at ei ladd gan Golyddan yn y croniclau. Ceir cyfeiriad arall gan y bardd Philyp Brydydd at ladd Gadwaladr gan Golyddan.[1]

Parhaodd y côf am Cadwaladr yn y Brudiau fel Mab Darogan. Yn Armes Prydein darogenir y bydd Cynan a Chadwaladr yn arwain y Cymry a'u cyngheiriad i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Cysylltir baner y Ddraig Goch ag ef, a defnyddiwyd y ddraig goch fel arwydd Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth. gan fod Harri yn hawlio bod yn ddisgynnydd Cadwaladr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Trioedd Ynys Prydein, Triawd 53 a thud. 292.