Cadfan ap Iago
Roedd Cadfan ap Iago (c. 580–625) (Lladin: Catamanus) yn frenin Gwynedd o tua 615 hyd ei farwolaeth yn 625.
Cadfan ap Iago | |
---|---|
Ganwyd | 580 ![]() |
Bu farw | c. 625, c. 617 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Tad | Iago ap Beli ![]() |
Plant | Cadwallon ap Cadfan ![]() |
Hanes Golygu
Roedd Cadfan yn fab i Iago ap Beli, ac mae'n debygol iddo ddod yn frenin Gwynedd ar farwolaeth ei dad tua 615, yn fuan ar ôl Brwydr Caer pan orchfygwyd byddin Powys a Gwynedd gan y brenin Aethelfrith o deyrnas Northumbria.
Ystyrid Cadfan yn frenin doeth a chyfiawn, yn nodedig am ei allu i gynnal cyfraith a heddwch mewn cyfnod cythryblus. Mae ei garreg fedd i'w gweld yn eglwys Llangadwaladr ar Ynys Môn, nepell o safle'r llys brenhinol yn Aberffraw. Mae'r arysgrif ar y garreg yn cyfeirio ato fel "Catamanus rex sapientisimus opinatisimus omnium regum" (="Y Brenin Cadfan, y doethaf a'r enwocaf o'r holl frenhinoedd"). Dilynwyd ef gan ei fab Cadwallon.