Cadwallon Lawhir
Roedd Cadwallon ap Einion (460? — 534), a adwaenir fel Cadwallon Lawhir yn frenin Gwynedd.
Cadwallon Lawhir | |
---|---|
Ganwyd | c. 460 |
Bu farw | 534 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Einion Yrth ap Cunedda |
Plant | Maelgwn Gwynedd |
Hanes
golyguYn ôl y traddodiad, teyrnasai Cadwallon ychydig ar ôl brwydr Mynydd Baddon (sy'n cael ei dyddio rhwng 490 a 510) a buddugoliaeth Arthur dros y Saeson.
Ei brif orchest yn ystod ei deyrnasiad oedd gorchfygu'r Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu ar Ynys Môn. Wedi hyn daeth yr ynys yn rhan bwysig iawn o deyrnas Gwynedd.
Cafodd yr enw Cadwallon, Lawhir, mae'n ymddangos, oherwydd fod ganddo freichiau anarferol o hir. Yn ôl Iolo Goch gallai godi carreg o'r llawr i ladd brân heb orfod plygu ei gefn, gan fod ei freichiau yn cyrraedd at y llawr.
Dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei fab Maelgwn Gwynedd. Mae'r ffaith fod Gildas yn cyhuddo Maelgwn o fod wedi lladd ei ewythr a chymeryd ei deyrnas yn awgrymu fod yr ewythr hwn wedi teyrnasu rhwng Cadwallon a Maelgwn, ond nid ymddengys fod cofnod o bwy ydoedd.
O'i flaen : Einion Yrth ap Cunedda |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Maelgwn Gwynedd |