Cadwgan ab Elystan
Brenin Rhwng Gwy a Hafren (Maesyfed heddiw) oedd Cadwgan ab Elystan (g. tua 1020 - 1066).
Cadwgan ab Elystan | |
---|---|
Arfau Cadwgan | |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Elystan Glodrydd |
Mam | Gwenllian ferch Einion |
Priod | Efa ab Gwrgant |
Plant | Idnerth ap Cadwgan, Goronwy ap Cadwgan, Hoedlyw ap Cadwgan, Ieuaf ap Cadwgan, Llywelyn ap Cadwgan, Idnerth ap Cadwgan ab Elystan Gloddrydd, lord of Radnor, Ieuaf ap Cadwgan ab Elystan Glodrydd, Llywelyn ap Cadwgan ab Elystan Glodrydd, Einion ap Cadwgan ab Elystan Glodrydd, Iorwerth ap Cadwgan ab Elystan Glodrhydd, Agnes ferch Cadwgan ab Elystan Glodrhydd, Hoedlyw ap Cadwgan ab Elystan, Iestyn Farchog ab Cadwgan ab Elystan Glodrydd |
Etifeddodd diroedd a grym ei dad Elystan Glodrydd (975 - 1010)[1] ac mae ei enw'n parhau hyd heddiw ar y teulu cyfoethog hwnnw (Cadogan) sydd perchen y rhan fwyaf o Chelsea, Llundain. Ei dad oedd sefydlydd traddodiadol y pumed o Lwythau Brenhinol Cymru, yn ôl yr Achau Cymreig. Ei fam oedd Gwenllian ferch Einion ab Owain ap Hywel Dda; felly roedd Hywel Dda'n hen, hen daid iddo.
Etifeddodd Cadwgan deyrnas ei dad a chafodd fwy nag un wraig, gan gynnwys Efa ferch Gwrgant ab Ithel. Brawd Efa oedd Iestyn ap Gwrgant sef Tywysog Morgannwg a phen pedwerydd Llwyth Brenhinol Cymru. Priododd Iestyn chwaer Elystan Glodrydd, sef Angharad felly roedd cysylltiad agos rhwng y ddau deulu. Mae bedd Cadwgan i'w weld oddi fewn i Eglwys Sant Dogfan yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Nodir mewn Lladin ar y garreg: Cwgan filiau Edelstan a all, o bosib gyfeirio at 'Cadwgan mab Elystan'.[2]
Efallai mai'r pwysicaf o'i blant oedd Idnerth a Llywelyn.[3]
Gweler hefyd
golygu- Cadwgan ap Bleddyn (1051-1111)
- Cadwgan o Landyfái (m. 1241)
- Cadwgan ap Meurig (fl. tua 1045 - 1073)
- Cadwgan Ffôl (13g)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 12.
- ↑ Cadogan: A Chelsea Family; cyhoeddwyd Tachwedd 2024 gan Unicorn]]; tud. 20.
- ↑ Jenkins, R. T., (1953). ELSTAN GLODRYDD, 'tad' y pumed o lwythau brenhinol Cymru. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 9 Tac 2024, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ELST-GLO-1100