Rhwng Gwy a Hafren
Rhwng Gwy a Hafren (Fferllys) oedd yr enw am ranbarth rhwng afonydd Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol Cynnar.
Math | ardal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.33°N 3.32°W |
Cysylltir y brenin Elystan Glodrydd (975 - 1010).[1] gyda'r ardal. Sonir amdano yn Brut y Tywysogion, ond ychydig iawn a wyddys am Elystan ei hun. Gwyddom, fodd bynnag, iddo etifeddu Buellt a Gwrtheyrnion, a dyblodd maint ei dir i greu ardal Rhwng Gwy a Hafren (Maesyfed heddiw) yng nghanolbarth Cymru. Yr enw arall ar y tir hwn yw Fferllys (hefyd Fferleg; Saesneg Ferlix), sydd yn ôl yr hanesydd John Davies yn dod o'r gair 'fferyll', gan gofnodi cysylltiad y rhan yma o'r wlad gyda chrefft trin haearn y gofaint.[2]
Roedd yn cynnwys sawl cantref a chwmwd, gan gynnwys Buellt, Cwmwd Deuddwr, Elfael, Gwerthrynion, a Maelienydd. Ymddengys fod Rhwng Gwy a Hafren yn dalaith o'r Bowys gynnar, ond ni wyddys llawer am ei hanes. Yn ddiweddarach daeth rhannau o'r diriogaeth yn rhan o deyrnas Brycheiniog.
Mae un traddodiad yn honni bod Cawrdaf, mab Caradog Freichfras, wedi sefydlu teyrnas yno yn y 6g, ond diweddar a niwlog yw'r cyfeiriad ac ni ellir dibynnu arno.
Cantrefi a chymydau
golygu- Cantref Buellt
- Ceri (cwmwd)
- Cwmwd Deuddwr
- Cantref Elfael
- Gwerthrynion (cwmwd)
- Llwythyfnwg (cwmwd)
- Cantref Maelienydd