Cadwyn (arwydd o swydd)
Mae cadwyn neu goler yn wrthych sy'n cael ei wisgo o amgylch y gwddf fel arwyddnod swyddogaeth neu arwydd o lw neu ymlyniad arall yn Ewrop o'r Oesoedd Canol ymlaen.
Daw'r gair Cymraeg fel benthyciad o'r gair Lladin catēna a cheir y cyfeiriad cynharaf o'r gair yn y Gymraeg o'r 13g.[1]
Un o'r cadwyni hynaf a mwyaf adnabyddus o'r math hwn yw Coler Esses, sydd wedi cael ei ddefnyddio'n barhaus yn Lloegr ers y 14g.
Defnyddiwyd gwahanol fathau o lifrai yn yr Oesoedd Canol i ddynodi ymlyniad i berson dylanwadol gan ffrindiau, gweision, a chefnogwyr gwleidyddol. Y gadwyn, o fetel gwerthfawr fel arfer, oedd y ffurf fwyaf mawreddog ar y rhain, a rhoddwyd hi fel arfer gan y person yr oedd y lifrai yn gysylltiedig ag ef i'w gymdeithion agosaf neu bwysicaf. Ni ddylid, yn y cyfnod cynnar, ei weld fel rhywbeth ar wahân i ffenomen ehangach bathodynnau, dillad a ffurfiau eraill o lifrai. Byddai bathodyn neu wrthrych yn hongian o'r gadwyn i ddangos y person yr oedd y lifrai yn gysylltiedig ag ef; rhan bwysicaf yr eitem i gyfoeswyr. Yn yr un modd, gwisgwyd coleri aur nad oedd ag unrhyw gysylltiad â lifrai.
Mae'r rhan fwyaf o feiri yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon yn gwisgo cadwyn, ac mae rhai newydd yn dal i gael eu dylunio ar gyfer bwrdeistrefi newydd. Weithiau bydd gan briod y maer fersiwn llawer llai. Gwisgir y rhain dros ddillad arferol pan fyddant ar ddyletswyddau swyddogol. Yn dilyn yr arfer Prydeinig, mae'r rhan fwyaf o feiri Canada, Awstralia a Seland Newydd hefyd yn gwisgo cadwyni. Mae'r arfer hefyd wedi lledaenu y tu hwnt i'r Gymanwlad, i'r Almaen (Prwsia yn unig yn wreiddiol) ym 1808, i'r Iseldiroedd gan archddyfarniad brenhinol yn 1852 ac i Norwy ar ôl i faer Oslo dderbyn un fel rhodd yn 1950, ac mae gan y mwyafrif o feiri Norwyaidd gadwyni maerol.
Mae cadwyni hefyd yn cael eu gwisgo gan urddau marchogion a'r Seiri Rhyddion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ cadwyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.