Cadwyn fwyd
Mewn ecoleg, trefn creaduriaid sy'n dangos y ffordd trosglwyddo ynni mewn ecosystem trwy bwydo yw cadwyn fwyd neu perthynas bwydo.
Enghraifft o'r canlynol | biological interaction |
---|---|
Rhan o | gwe fwyd, ecosystem |
Yn cynnwys | trophic level |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft cadwyn fwyd: algae → protist → sgwid → morlo → orca. Yn yr enghraifft mae pump lefel droffig achos mae'r ynni yn llifo trwy pump organeb. Mae'r ynni yn lleihau pob amser achos dydy'r anifeiliaid ddim yn bwyta'r holl organeb, achos mae'r anifeiliaid yn defnyddio ynni i symudio ac achos mae gwastraff ynni trwy wres.
Yn lle y term "cadwyn fwyd" mae rhai pobl yn defnyddio'r term gwe fwyd, achos mae perthynas bwydo yn fwy gymhleth na'r syniad o'gadwyn', gyda nifer o anifeiliaid yn bwyta'r un fath o bwyd ac yr un pryd pob anifail yn bwyta mwy nag un math o fwyd. Mae hefyd yn bosib fod y cadwyn fwyd yn cylchred (gweler hefyd: y gylchred carbon a'r gylchred nitrogen).
Mae'n bosib fod llygryddion yn cael eu drosglwyddo dros cadwyn fwyd a felly achosi problemau, ond er mwyn deall y cyfanswm llygryddion mewn cadwyn fwyd mae'n rhaid i ystiried y pyramid biomas, sy'n dangos pa mor bwyt sy wedi ei fwyta.
Trefn cadwyn fwyd
golygu- Cynhyrchydd: Planhigion gwyrdd (mae'n cynhyrchu ynni trwy ffotosynthesis)
- Ysydd:
- Llysysyddion (anifeiliaid sy'n bwyta ddim ond planhigion)
- Cigysyddion (anifeiliaid sy'n bwyta ddim ond cig)
- Hollysyddion (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion a chig)
- Dadelfennyddion (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion ac anifeiliaid wedi marw neu tail ac yn torri nhw i lawer, e.e. mwydod neu bacteria)
Cynhyrchydd
golyguYr haul yw ffynhonnell egni pob organeb byw ar y Ddaear. Planhigion yw'r organeb sydd yn medru trosglwyddo egni golau'r haul i mewn i egni gemegol mewn glwcos. Mae hyn yn digwydd yn ystod ffotosynthesis, pan mae planhigyn yn cynhyrchu bwyd ei hun, sef glwcos, yn y dail. Felly, gelwir y planhigion yn cynhyrchwr, ac mae pob anifail yn dibynnu arnynt i cychwyn y cadwyn bwyd.