Cae rasio ffos a pherth ym mhentref Aintree, Bwrdeistref Fetropolitan Sefton, Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, sy'n ffinio â dinas Lerpwl yw Cae Ras Aintree. Mae'n adnabyddus fel lleoliad y Ras Fawr Genedlaethol, a gynhelir yn flynyddol ym mis Ebrill dros dri diwrnod. Cynhelir cyfarfodydd rasio eraill ym mis Mai a mis Mehefin (y ddau ar nos Wener), Hydref (Sul), Tachwedd a Rhagfyr (y ddau ddydd Sadwrn).

Cae Ras Aintree
Mathcae rasio ceffylau Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.47659°N 2.94631°W Edit this on Wikidata
Map

Yn 1829 cymerodd William Lynn, perchennog gwesty yn Lerpwl, dir ar brydles gan Iarll Sefton, at ddibenion rasio ar y gwastad. Gosododd yr iarll y garreg sylfaen ar 7 Chwefror 1829. Adeiladodd Lynn eisteddle mewn pryd ar gyfer y cyfarfod cyntaf ar 7 Gorffennaf 1829. Ym 1835 trefnodd Lynn rasio dros glwydi, a oedd yn llwyddiant mawr. Roedd rasys ffos a pherth – rasio o fan i fan ar draws gwlad – yn dod yn boblogaidd yn Lloegr, ac ar 29 Chwefror 1836 trefnodd Lynn gyda chymorth y marchog adnabyddus, Capten Martin Becher, y Grand Liverpool Steeplechase, a redwyd o amgylch y cwrs rasio a oedd yn cynnwys ffosydd amrywiol, cloddiau a gwrychoedd wedi'u hychwanegu i efelychu'r mathau o beryglon i'w canfod ar rasys traws gwlad. Hwn oedd rhagflaenydd y Ras Fawr Genedlaethol cyntaf, a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 1839. Roedd rasio ceffylau yn adloniant a ddenodd yr uchelwyr a'r bobl gyffredin fel ei gilydd. Denodd y "Cenedlaethol" cyntaf dyrfa o tua 50,000. Mae poblogrwydd y digwyddiadau ar y cae rasio wedi parhau hyd heddiw.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd archebwyd y cae i'w ddefnyddio fel storfa ac roedd cannoedd o filwyr o UDA wedi'u lleoli yno.

Ar ôl prydlesu'r cwrs gan deulu Sefton am ganrif prynodd Messrs. Tophams y cae rasio'n llwyr ym 1949. Ym 1964 cyhoeddodd Mrs Topham ei bod yn bwriadu gwerthu'r cae i ddatblygwyr i adeiladu tai. Dechreuodd hyn gyfnod o ansicrwydd a barhaodd am tua ugain mlynedd, a bygythiwyd bron pob Ras Genedlaethol o fod yr olaf. Parhaodd hyn drwy berchnogaeth y datblygwr eiddo lleol, Bill Davies, o 1973 hyd 1983. Ym 1983 prynodd y Jockey Club y cae, gan sicrhau dyfodol mwy sefydlog.

Llyfryddiaeth

golygu
  • John Pinfold, Aintree: The History of the Racecourse (Surbiton: Medina, 2016)