Caer Belan

caer rhestredig Gradd I yn Llandwrog

Amddiffynfa arfordirol sy'n gorwedd ger Caernarfon ym mhlwyf Llanwnda, Gwynedd, yw Caer Belan. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I. Lleolir ar ben de-orllewinol Afon Menai gyferbyn a Pwynt Abermenai.

Caer Belan
Mathcaer Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1775 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandwrog Edit this on Wikidata
SirLlandwrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr3.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1224°N 4.3327°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd y gaer yn 1775 gan Thomas Wynn, yr AS ar gyfer Sir Gaernarfon ar y pryd, a ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Niwbwrch. Fe'i hadeiladwyd gan Thomas Wynn pan oedd yn poeni am wendidau pe bai ymosodiad ar arfordir Cymru, yn arbennig yn sgil Rhyfel Annibyniaeth America.

Mae Caer Belan wedi'i gofrestru fel adeilad rhestredig Gradd I. Ynddo, ceir crochendy ac amgueddfa forwrol.[1] Mae hefyd yn cynnwys adeiladau gwyliau mewn arddull ffermdai gyda thân glo i'w cynhesu.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Petersen, Duncan; Joyce Huber, Jon Huber (2000). Britain on Backroads. On Backroads Series. Hunter Publishing, Inc. t. 214. ISBN 1-55650-895-6.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato